I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Byw Yn » Blog

Blog

Blog

Coed chwedlonol y Parc Cenedlaethol

Cwestiwn: Beth sydd gan bry sidan, ysbrydion aflan a chychod Napoleonig yn gyffredin?
Ateb: Maen nhw i gyd yn ymddangos mewn straeon rhyfeddol am goed hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol.

O'r glasbren mwyaf di-nod i'r cawr o goeden drwchus drawiadol, mae gan bob coeden ei hanes i'w adrodd.

Does ond angen edrych ar rai o rywogaethau Arfordir Penfro i weld pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu, oherwydd bod canghennau a boncyffion y coed wedi ildio iddo a phlygu  er mwyn goroesi. Mae 'coeden blyg Penfro' yn un o nodweddion clasurol ein glannau. Ond does dim modd barnu coeden yn ôl ei golwg bob tro.

Meddai Swyddog Coed a Thirwedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Mike Higgins: "Un o goed prinnaf y Deyrnas Unedig yw'r Juniperus communis subsp. Hemisphaerica, y ferywen fach. Mae'n tyfu yma ar Ynys Dewi ac mae golwg ddigon di-nod arni, llwyn bach o brysgwydd. Ond mae mewn perygl difrifol iddi ddiflannu o’r gwyllt yn y dyfodol agos."

Tree and Landscape Officer Mike Higgins inside the giant mulberry tree at St Brides.
Swyddog Coed a Thirwedd Mike Higgins y tu mewn i'r ferwydden enfawr yn Sain Ffraid. Mae coron y goeden 300 mlwydd oed hon yn mesur 53m o'i hamgylch, ac fe allai rhywun feddwl mai dwsinau o lwyni sydd yma. Pan benderfynodd y Brenin James gynhyrchu ei sidan ei hun, gorchmynnodd i dirfeddianwyr y bonedd fel y rheini oedd yn byw yng Nghastell Sain Ffraid  brynu a phlannu merwydd er mwyn sicrhau cyflenwad diddiwedd o ffrwythau i'r pryfed. Archebodd 10,000 o ferwydd duon... ond dim ond ffrwyth y ferwydden wen y byddai'r pry sidan yn eu bwyta. Wps!

Rhan o waith Mike yw gofalu am goed sy'n cael eu gwarchod dan Orchmynion Diogelu Coed ac Ardaloedd Cadwraeth, fel rhai o'r rheini sydd yn y llun.

Little Milford yew: This common yew is at least 500 years old. It envelops a child’s gravestone from 1819.Y
Ywen fach Little Milford: Mae'r ywen gyffredin hon yn 500 mlwydd oed o leiaf. Mae'n coleddu carreg fedd plentyn a osodwyd yno yn 1819. Efallai fod y Celtiaid yn addoli yma. Yn ddiweddarach, credir i'r eglwys sefydledig sylweddoli mai man addoli oedd yn y fan hon, ac felly, penderfynwyd codi eglwys gerllaw. Yna, daeth yn draddodiad plannu yw mewn mynwentydd i gadw ysbrydion aflan draw, sydd o bosibl yn gysylltiad ag addoli paganaidd y gorffennol.

Dywedodd: "Bydd gan bob coeden wreiddiau, ychydig o ddail, a bydd rhywfaint o bren rhwng y ddau, ond bydd pob coeden yn effeithio ar ei hamgylchedd neu'n ymateb iddo mewn ffordd unigryw. Oherwydd mai bod byw yw coeden, does neb yn wir yn gwybod sut mae'n mynd i dyfu, felly mae'n ofnadwy o ddifyr eu gwylio dros gyfnod yn ymaddasu i'w hamgylchiadau."

Rudder oak: In the Napoleonic era, any oak with an L-shaped curve was earmarked for making a boat rudder. The unused ‘rudder’ of this great riverside oak at Picton is now propped up with a wooden brace.
Derwen y llyw: Yn oes Napeoleon, byddai unrhyw dderwen ac arni dro siâp L yn cael eu chlustnodi i wneud llyw i long. Ni ddefnyddiwyd 'llyw' y dderwen fawr hon ar lan yr afon yn Pictwn ac erbyn hyn mae'n cael ei chynnal â darn o bren.

Beth yw coeden? Mae mor glir â mwd. O dan gyfraith y Gorchymyn Diogelu Coed, ystyr 'coeden' yw "unrhyw beth y byddai rhywun fel rheol yn ei alw'n goeden". Yn ôl llawlyfr Maes Alan Mitchell i Goed Prydain a Gogledd Ewrop, wrth sôn am ba rywogaethau sy'n 'goed' a pha rhai sydd ddim, mae'n dweud: bod y ddraenen wen yn goeden...nad yw'r ysgawen na'r gwyrwialen yn goed ..a’r gollen – wel – efallai!

The rare dwarf juniper survives on the cliff edges of Ramsey Island.
Mae'r ferywen fach brin yn llwyddo i oroesi ar ddibyn clogwyni Ynys Dewi.

Mae Gorchmynion Diogelu Coed ar rai o'r coed hyn ac mae rhai mewn Ardaloedd Cadwraeth, sy'n golygu bod y gyfraith yn eu gwarchod rhag niwed. Mae'n bosibl rhoi Gorchymyn Diogelu Coed oherwydd bod coeden yn werthfawr i'r gymuned yn ogystal ag oherwydd ei hoedran a’i pharhad. I weld cynllun rhyngweithiol o'r Gorchmynion Diogelu Coed sydd ar waith yn y Parc a chyngor am sut i ofalu am goed a gwrychoedd, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/coed.

Bleeding yew: The famous ‘bleeding yew’ at Nevern Churchyard.
Yr ywen waedlyd: Yr 'ywen waedlyd' enwog ym Mynwent Nanhyfer. Mae rhai'n dweud ei bod yn 'gwaedu' nodd coch am fod dyn ifanc wedi'i grogi ar gam flynyddoedd lawer yn ôl. Mae eraill yn dweud y bydd yn gwaedu nes bod tywysog o Gymro'n meddiannu'r orsedd yng Nghastell Nanhyfer, a chwedl arall yn honni y bydd yn gwaedu nes bydd heddwch yn y byd. Mae fideo'n adrodd hanes yr ywen waedlyd ar gael yma: www.arfordirpenfro.cymru/chwedlau.


Blog Bioamrywiaeth
A gyhoeddwyd 01/11/2017


blaenorol

 1 to 1 of 1