I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Cynllun cadwraeth y Parc Cenedlaethol yn helpu i sefydlu dôl blodau gwyllt newydd y ‘Bug Farm’

Mae hadau blodau gwyllt o gyn faes awyr o’r Ail Ryfel Byd wedi cael eu defnyddio i greu dôl wair frodorol newydd yn Dr Beynon’s Bug Farm ger Tyddewi.

Casglwyd yr hadau o’r dolydd gwair llawn blodau gwyllt ym Maes Awyr Tyddewi diolch i gyllid gan gynllun Gwarchod y Parc Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Casglwyd hadau blaenau’r planhigion gan Wyndrush Wild o Sir Benfro, gan ddefnyddio peiriant cynaeafu a elwir yn brush harvester ac yna cafodd yr hadau eu sychu. Yn y cyfamser, bu acer o rygwellt ungnwd yn cael ei phori gan Fuches Tyddewi, sef gwartheg Duon Cymreig y Bug Farm, cyn i’r llain gael ei llyfnu, hau’r hadau â llaw ac yna rolio’r tir.

Wildflower seeds were collected from the wildflower-rich hay meadows of St Davids Airfield, which is owned by the National Park Authority. Photo © Vicky Swann/Wyndrush Wild.
Hadau blodau gwyllt yn cael eu casglu o’r dolydd gwair llawn blodau gwyllt ar Faes Awyr Tyddewi, sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.  Llun © Vicky Swann/Wyndrush Wild.

Dywedodd Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Sarah Mellor: “Mae’n wych ein bod wedi gallu defnyddio’r maes awyr fel ‘arch blodau gwyllt’ er mwyn creu dôl arall, yn enwedig gan fod y Bug Farm wedi’i lleoli mor agos.

“Mae’r rhywogaethau mwyaf nodedig ar y maes awyr yn cynnwys tegeirian y gors ynghyd ag amrywiaeth o blanhigion eraill sy’n gyfeillgar i bryfed peillio, fel y bengaled benddu, pys y ceirw mwyaf a llygad llo mawr.

“Eleni, roedd y maes awyr yn gartref i’r ehedydd, dros 60 pâr ohonynt. Rydym yn gobeithio y bydd y ddôl newydd hon yr un mor llwyddiannus o ran cynhyrchu a denu planhigion ac anifeiliaid mor brin.”

The Bug Farm’s Tyddewi Herd Welsh Black cattle grazed the site before the seeds were sown. Photo © Dr Beynon’s Bug Farm.
Bu Buches Tyddewi, sef gwartheg Duon Cymreig y Bug Farm yn pori’r safle cyn i’r hadau gael eu hau.  Llun © Dr Beynon’s Bug Farm.

Mae’r maes awyr, a fu’n eiddo i Awdurdod y Parc ers canol yr 1990au, yn cynnwys un o’r glaswelltiroedd niwtral mwyaf yn y sir ac mae’r rhostiroedd yn y pen gogleddol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).

Mae’r cynllun Gwarchod y Parc yn gweithio i ailsefydlu rhwydwaith o goridorau cyfeillgar i fywyd gwyllt o fewn y Parc Cenedlaethol, gan gynnig ystod o help, cyngor a chymorth ymarferol i berchnogion tir. Bu’r cynllun yn weithredol am bron i ugain mlynedd.

Once the acre of land was ready, the dried wildflower seeds were sown by hand. Photo © Dr Beynon’s Bug Farm.
Pan oedd yr acer o dir yn barod, cafodd hadau’r blodau gwyllt, a oedd wedi cael eu sychu, eu hau â llaw. Llun © Dr Beynon’s Bug Farm.

Ychwanegodd Dr Sarah Beynon: “Mae’n wych bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ein cynorthwyo gyda’n cynllun i greu coridor o gynefin rhwng dau o’r cynefinoedd bywyd gwyllt pwysicaf ar y penrhyn, sef SSSI Rhostir Maes Awyr Tyddewi ac SSSI Comin Dowrog.

“Roedd yn anrhydedd i ni ennill gwobr Crëwr Dolydd y Flwyddyn Plantlife International yng Nghymru 2015, pan roddwyd cychwyn ar y prosiect hwn ac rydym eisoes wedi cael pryfed prin, fel y fursen fach goch yn defnyddio'r coridor, yn ogystal â phlanhigion prin fel crafanc y frân dridarn, yn dechrau symud ar draws y fferm. Bydd y ddôl newydd hon yn gwneud y coridor yn gadarnach byth, gan alluogi mwy o fywyd gwyllt i ddefnyddio The Bug Farm i symud rhwng y ddau gynefin.

“Mae’r ddôl newydd yn rhan o’n Bug Farm Trail, sy’n golygu y gall ymwelwyr ei harchwilio a’i gwylio’n datblygu dros y blynyddoedd.”

Mae Wyndrush Wild a Dr Beynon’s Bug Farm wedi derbyn cyllid gan yr Awdurdod drwy’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut i ymgeisio ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cdc.

Gyhoeddi 03/11/2017



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion