I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Dewch i Ddathlu Blwyddyn y Môr mewn steil gyda thrip cwch unigryw

Hoffech chi weld Arfordir Sir Benfro o’r môr neu ddysgu mwy am fywyd gwyllt y môr a threftadaeth forwrol yr ardal? Os felly, ymunwch â thrip cwch Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddathlu Blwyddyn y Môr.

Mae Awdurdod y Parc wedi ymuno â chwmni Dale Sailing i drefnu’r daith arbennig hon rhwng 11am a 3pm ddydd Mawrth 5 Mehefin, a fydd yn teithio drwy Aberdaugleddau cyn mynd allan i’r môr.

Join Pembrokeshire Coast National Park Authority and Dale Sailing for a special boat trip to celebrate the Year of the Sea on Tuesday 5 June from 11am-3pm.
Ymunwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chwmni Dale Sailing am drip cwch arbennig i ddathlu Blwyddyn y Môr ddydd Mawrth 5 Mehefin rhwng 11am a 3pm.

Dywedodd Gayle Lister, Cydlynydd y Digwyddiad sy’n gwirfoddoli gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rhai o’n gwirfoddolwyr ymroddedig sydd â gwybodaeth fanwl am Arfordir Sir Benfro a’i rinweddau arbennig fydd yn arwain y trip cwch hwn.

“Dewch i glywed hanesion y bobl sy’n byw ac yn gweithio ar y môr ac o’i amgylch, dysgu am yr adar a bywyd gwyllt y môr, darganfod hanes y llongau yn Aberdaugleddau ddoe a heddiw a mwynhau golygfeydd arfordirol anhygoel o fan unigryw”.

Mae’r tocynnau’n costio £30 y person a bydd y cwch yn gadael Cei Mecryll Marina Aberdaugleddau. 

Bydd angen i chi ddod â bocs bwyd, diodydd, dillad cynnes a dillad glaw gyda chi.  Efallai y byddwch am ddod â chamera a binocwlars hefyd.  Mae toiled ar gael ar y cwch.

Mae’n rhaid i chi archebu lle. I archebu lle ffoniwch 01437 720392.

Dylech nodi bod dydd Iau 7 Mehefin yn ddyddiad wrth gefn os bydd y tywydd yn ein rhwystro rhag hwylio ar 5 Mehefin.  Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer y ddau ddyddiad hyn. Os bydd y tywydd yn ein rhwystro rhag hwylio ar y ddau ddiwrnod, byddwch yn cael ad-daliad llawn.

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Gyhoeddi 23/05/2018



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion