I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Dysgu Am » Gwybodaeth ac Adnoddau » Gwyddoniaeth » Daeareg » Newid yn yr Hinsawdd

Cliwiau yn y dirwedd

Beth yw’r testun yr ydyn ni’n hoffi ei drafod yn fwy nag unrhyw beth arall?! Y tywydd wrth gwrs! Ac o dirweddau trofannol i rewlifoedd a haenau iâ, mae Prydain wedi gweld popeth.

Tua 125,000 o flynyddoedd yn ôl roedd yr hinsawdd yn llawer cynhesach na heddiw, ond fe oerodd yn sylweddol hyd nes y rhewlifiannau mawr diwethaf, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar yr adeg hon, roedd llawer o Brydain o dan haenau o iâ a fwydwyd gan rewlifoedd a oedd yn llifo allan o’r ardaloedd mynyddig.

Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fe gyrhaeddodd Haenen Iâ Môr Iwerddon Fynyddoedd y Preseli, a llifodd i’r de hefyd, dros Benrhyn Tyddewi, gan gyrraedd mynedfa Aberdaugleddau cyn i’r newid dramatig yn yr hinsawdd ei hatal

Pan doddodd yr iâ, fe adawodd ddyddodion clog-glai ar ei ôl a oedd wedi cael eu cafnu a’u llifanu o greigiau ar hyd ei lwybr tua’r de tuag at Sir Benfro, ac ar ei thraws. Mewn llawer o lefydd, roedd y dŵr tawdd yn ail-weithio’r dyddodion hyn i ffurfio haenau o dywod a graean. Felly, ar un adeg, fe gafodd lawer o’r tywod hyfryd ar ein traethau ei gario lawer o filltiroedd gan Fôr rhewedig yr Iwerydd.

Edrychwch ar y dolenni isod i ddarganfod beth oedd yn digwydd flynyddoedd lawer iawn yn ôl ….

125,000 o flynyddoedd yn ôl
18,500 o flynyddoedd yn ôl
5,000 - 3,000 o flynyddoedd yn ôl

125,000 o flynyddoedd yn ôl…

Gwelir gweddillion llwyfannau traeth 2-6m uwchben y Marc Penllanw o amgylch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fel Ynys Bŷr, Freshwater West, Traeth Marloes, Ogof Golchfa (Porth Clais) a Thraeth Poppit.

Broad Haven South - Copy right Sid Howells

Mae haenen isaf y dyddodion sy’n gorwedd dros y llwyfan o greigiau yn ne Aber Llydan (llun uchod), sydd 2-4m uwchben y marc penllanw presennol (a ddangosir o’r newid o wyrain brown golau i gennau du) yn cynnwys cerrig crynion a chregyn sydd wedi cael eu smentio’n naturiol gyda’i gilydd i ffurfio craig. Mae profion ar asidau amino’r creigiau mewn labordy yn dweud eu bod tua 125,000 mlwydd oed.

Mae hyn yn dangos bod yna rai cyfnodau cymharol fyr yn ystod ‘Oes yr Iâ’, sy’n cyfeirio at y cyfnod o 2 miliwn o flynyddoedd hyd nes prin 10 mil o flynyddoedd yn ôl, pan yr oedd yr hinsawdd yn gynhesach na’n hinsawdd ni ar hyn o bryd.

O ganlyniad, rhaid bod tipyn llai o iâ i’w weld ar yr Ynys Las a Phenrhyn yr Antarctig, gan achosi i lefelau’r môr godi 6m yn uwch nag y mae heddiw.
Mae gan hyn oblygiadau pwysig wrth i ni gynllunio ar gyfer newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol!

18,500 mlynedd yn ôl…

Ogof Golchfa - Copy right Sid Howells
Ogof Golchfa (ychydig i’r gorllewin i’r fynedfa i borthladd Porth Clais)

Yn Ogof Golchfa, mae yna dystiolaeth o lwyfan traeth gyda cherrig crynion a chlogfeini, fel y gwelir yn Ne Aber Llydan (Llun 1). Mae’r haenen nesaf yn y dilyniant yn Ogof Golchfa yn dangos tystiolaeth o ddirywiad dramatig yn yr hinsawdd (amodau rhew parhaol), ac uwchben hyn mae ‘clog-glai a meini dyfod mawr (a gludwyd gan yr iâ) yn dangos tystiolaeth fod yr ardal hon, yn y pendraw, wedi ei gorchuddio gan Haenen Iâ Môr Iwerddon.

Mae’n bwysig cofio bod lefel y môr bryd hynny, yn lleol, 40m yn is nag y mae nawr, ac felly nid oedd y morlin ble y mae heddiw.

5,000 – 3,000 mlynedd yn ôl

Wrth i’r iâ ostwng at ei lefelau presennol, fe gododd lefel y môr yn gyflym ac yna sefydlogi’n araf gan gyrraedd ei sefyllfa bresennol tua 5 mil o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y gwelliant hwn yn yr hinsawdd, fe ddatblygodd coetir dros Sir Benfro, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd bellach wedi ildio’u tir i’r codiad yn lefelau’r moroedd, gan arwain at chwedl Gymreig Cantre’r Gwaelod.


Cantre’r Gwaelod yw’r deyrnas danddwr hynafol chwedlonol y dywedir iddi fod wedi bodoli ar dir ffrwythlon rhwng Ynys Dewi ac Ynys Enlli, yn yr ardal a adwaenir heddiw fel Bae Ceredigion i’r gorllewin o Gymru.

Wrth i’r iâ ostwng, fe fu lefelau môr ymgodol yn boddi ardaloedd arfordirol isel, a adwaenir heddiw fel Bae Ceredigion, Bae Sain Ffraid a Bae Caerfyrddin. Ail-weithiwyd clog-glai a thywod graeanog a ddyddodwyd wrth i’r haenau iâ doddi, i ffurfio traethau a grynnau o raean bras a symudodd yn fuan tua’r tir dros ardaloedd coediog, gan adael tystiolaeth o ‘goedwigoedd boddedig’ ar eu holau, sydd i’w gweld ar y rhan fwyaf o draethau Sir Benfro ond sy’n aml ynghudd o dan y tywod.