I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Dysgu Am » Daearyddiaeth » Nodweddion Arfordirol

Nodweddion Arfordirol

Dynodwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1952 oherwydd ei ddaeareg amrywiol a'i nodweddion arfordirol dramatig. Daliwyd rhai o'r tirweddau clasurol hynny yn y ffotograffau canlynol.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld gwybodaeth am y gwahanol fathau o nodweddion arfordirol:



Baeau
Mae Bae yn nodwedd agored, crwm, sydd wedi'i thorri i mewn i'r morlin. Yn Sir Benfro, mae baeau'n gallu bod yn fawr neu'n fach.  Mae Bae San Ffraid yn nodwedd fawr, sy'n rhoi'r siâp nodweddiadol i'r sir wrth ei gweld ar y map. Mae bron fel petai cawr wedi cnoi darn mawr allan o ochr y sir.

Barafundle Bay
Bae Barafundle.

Mae baeau eraill yn llai. Mae Bae Barafundle, yn ne'r sir, yn agos at bentref Ystagbwll, yn fae hardd sy'n boblogaidd ymhlith ymwelwyr. Mae'r bae'n swatio rhwng clogwyni, ac yn nodi diwedd clogwyni calchfaen Cambriaidd penrhyn Castellmartin i'r de-orllewin, a dechrau'r creigiau tywodfaen coch yng Nghei Ystagbwll, i'r gogledd-ddwyrain. .

Beaches
Mae Sir Benfro'n enwog am ansawdd ei thraethau a'i dyfroedd. Ychydig iawn o ardaloedd Prydain sy'n gallu hawlio'r un nifer o draethau godidog ag sydd yn Sir Benfro. Maen nhw'n amrywio o ran maint a math, o'r Porth Mawr yn y gogledd i'r ehangder hir o dywod yn Ninbych-y-pysgod i'r traeth clogfeini yng Nghaerbwdi.

Mae Broad Haven South yn enghraifft o draeth tywodlyd yn Sir Benfro. Mae'n swatio rhwng pentiroedd calchfaen Ystagbwll a Sant Gofan yn ne'r sir, ac yn cael ei amddiffyn rhag y tywydd gwaethaf gan y pentiroedd i'r de. Mae'r clogwyni calchfaen yn frith o ogofau, a, diolch i erydiad a newid yn lefel y môr, mae yna ynysig a stac garegog, y gellir eu gweld yn y llun isod. Yn lleol, gelwir y stac yn Graig yr Eglwys (Church Rock).

Broad Haven South and Church Rock
Craig yr Eglwys a Broad Haven South.

Yn Broad Haven, mae yna draeth tywodlyd llydan sy'n ymestyn yn ôl tua'r tir, ble mae yna system o dwyni tywod yn datblygu. Yn agos at y môr, mae'r traeth yn fwy gwastad yn gyffredinol, a phan fydd y llanw'n isel, mae'r tywod yn donnog. Fel arfer, symudiadau'r môr sy'n achosi'r patrwm tonnog yma, ac mae'r patrwm ar ongl sgwâr i'r tonnau sy'n dod i mewn.

Ymhellach i ffwrdd oddi wrth y môr, mae'r traeth yn fwy serth wrth iddi gwrdd â'r system dwyni, ac wrth i grafangau glaswellt y tywod ddechrau gafael. Ar ben gogleddol y traeth, mae nant o system lynnoedd Bosherston gerllaw yn llifo arno i'r traeth. Mae'r llif hwn yn ysbeidiol, ond mae yna sianel am lawer o'r flwyddyn, ac yn ystod misoedd y gaeaf, pan fydd y môr yn arw, mae dŵr heli'n llifo i fyny'r sianel ac yn llenwi'r lagŵn ar frig y traeth. Mae'n ddiddorol nodi y gall siâp y traeth newid yn gyflym iawn, gan ddibynnu ar amodau'r tywydd a'r môr. Yn ystod yr Haf, mae'r traeth dipyn yn fwy gwastad, ond yn y Gaeaf caiff swm sylweddol o dywod ei waddodi, gan ffurfio banciau uchel, a sianelau dwfn.

Ogofâu
Mae ogofâu môr yn nodwedd gyffredin ar forlin Sir Benfro. Fe'u ffurfiwyd wrth i wendidau yn y graig oddi tano (planau gwelyo a chymalau) gael eu herydu gan symudiadau'r tonnau. Oherwydd y gwendidau, roedd modd i'r creigiau gael eu cnoi i ffwrdd gan rym y tonnau, neu yn achos y garreg galch yn ne'r sir, i gael eu toddi.

Porth y Ffynnon near Porth Clais.
Porth y Ffynnon ger Porth Clais.

Dros sawl mil o flynyddoedd, mae holltiadau bach wedi tyfu’n fwy, gan ffurfio ogofâu o faint amrywiol. Mae ogofâu môr yn gynefin pwysig i nifer o greaduriaid sy'n byw ar hyd Arfordir Penfro. Rydyn ni'n gwybod bod morloi llwyd yn eu defnyddio fel lloches i eni eu rhai bach. Mae rhai adar môr hefyd yn defnyddio silffoedd y graig i nythu. Ym Mhenrhyn Ystagbwll, yn agos at Fae Barafundle, mae cytref o heligogod yn defnyddio'r ogofâu fel safle nythu. Yn Flimston, mae gwylanod coesddu yn nythu mewn system ogofâu sydd wedi dymchwel. 

Clogwyni
Crëwyd y dirwedd a welir ar Benrhyn Castellmartin gan y graig sy'n gorwedd o dan y ddaear. Carreg galch garbonifferaidd yw hon, a ble mae'n cwrdd â'r môr mae'n creu rhai o'r golygfeydd arfordirol gorau, a rhai o'r darluniau mwyaf gwych yn Sir Benfro.

Craig waddodol yw carreg galch wedi ei gwneud o olion creaduriaid môr marw, fel cwrelau. Wrth i'r creaduriaid farw, roedd eu holion yn suddo i wely'r môr, ac adeiladwyd haenau trwchus. Yna, gwasgwyd yr haenau hyn gan bwysedd syfrdanol i ffurfio carreg galch.

St Govan's Chapel.
Capel San Gofan.

Mae'r clogwyni ym Mhenrhyn San Gofan wedi eu gwneud o garreg galch. Yn gyffredinol, mae copa'r clogwyn yn wastad, ond mae yna wagleoedd ble mae'r dŵr wedi hydoddi'r garreg galch. Yn agos at Benrhyn San Gofan, mae'r graig yn fwy agored ac yn ffurfio 'carped' garw o ddarnau wedi'u torri a'u cracio.

Mae'r clogwyni carreg galch yn serth ac yn boblogaidd ymhlith dringwyr. Ar eu gwaelod, mae'r traethau o glogfeini wedi ffurfio, ble mae'r môr wedi torri o dan sylfaen y clogwyn, gan achosi i rannau o'r clogwyn ddymchwel.

Er ei bod yn boblogaidd ymhlith dringwyr a cherddwyr, mae San Gofan hefyd yn denu ymwelwyr i'r capel bach sy'n swatio mewn hollt yn y clogwyni. Ond mae ymwelwyr hefyd yn dod â phroblemau. Mae'r nifer o bobl sy'n ymweld ag un ardal fechan yn gallu achosi erydiad i'r borfa a'r pridd tenau. Mae rhai o'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf wedi cael eu ffensio er mwyn annog adfywiad y tir. Ble'r oedd y clogwyni wedi syrthio, ailgyfeiriwyd pobl, yn gerddwyr ac yn ddringwyr, er eu diogelwch eu hun. 

Cildraethau
Ar forlin caregog danheddus Sir Benfro, mae yna enghreifftiau o nifer o nodweddion arfordirol. O bentiroedd gwych i faeau eang trawiadol. Mae'n bosib edrych dros rai o'r nodweddion llai, fel y cildraethau a'r baeau bach niferus, y mae'n bosib eu hadnabod yn aml oherwydd eu mynedfeydd cul.

St Brides Haven.
Aber Sain Ffraid.

Mae Aber Sain Ffraid yn gildraeth fach dlws, sy'n swatio yng nghornel de-ddwyreiniol Bae Sain Ffraid. Mae creigiau'r bae yn Hen Dywodfaen Coch, sy'n golygu bod gan y clogwyni o gwmpas liw coch nodweddiadol. Mae'r cildraeth ar ddiwedd dyffryn, ac rydych yn ei gyrraedd ar hyd heol sydd â graddiant ysgafn. Mae'r bae'n fas pan fydd y llanw'n isel, ac mae'r pyllau glan môr yn cael eu dadorchuddio.

​Porthladdoedd
Mae porthladd yn lle ble y gall cychod gysgodi rhag tywydd garw a dadlwytho cargo a theithwyr i'r tir. Mae pobl wedi addasu ac wedi ychwanegu at nodweddion naturiol Sir Benfro, y baeau, y cildraethau a'r pentiroedd, i adeiladu hafanau diogel ar gyfer eu cychod.

Wrth edrych ar fap o forlin Sir Benfro, gellir gweld llawer o borthladdoedd, rhai'n eithaf bach, eraill yn fwy o faint. Defnyddiwyd llawer yn y gorffennol, pan yr oedd Sir Benfro'n lle pwysig ar gyfer cynhyrchu gwrtaith, a wnaed trwy losgi carreg galch, a chloddio am lo.

Porthgain Harbour
Porthladd Porthgain​.

Gelwir y porthladdoedd hyn yn hafanau, ac ystyr y gair hafan yw cysgod – gwelir y gair Saesneg, 'haven', mewn llawer o enwau Saesneg yn y sir - Lydstep Haven, Little Haven, Martin's Haven. Ystyr y gair porth yw drws neu harbwr, ac mae hefyd i'w weld yng ngogledd y sir mewn enwau llefydd fel Porthgain a Phorthclais. Mae'r gair 'cei'yn awgrymu lle ble y gallai'r cychod ddadlwytho'u cargo a'u pobl, ac mae i'w weld mewn enwau llefydd fel Cei Cresswell a Chei Ystagbwll. 

Ynysoedd
Mae yna chwe phrif ynys oddi ar arfordir Sir Benfro, pob un ohonynt yn y Parc Cenedlaethol. Mae pobl wedi bod yn byw ar bump o'r ynysoedd hyn ar ryw adeg yn eu hanes. Gallwch ddarganfod mwy am y chwe phrif ynys wrth glicio'r dolennau isod:


Ynysigau

Mae Gateholm yn un o nifer o ynysigau sydd i'w gweld oddi ar Arfordir Penfro. Mae'r clogwyni, y pentiroedd a'r ynysigau oddi ar y lan yn cynnwys tywodfaen Dyfnantaidd. Mae'r graig hon yn graig waddodol, wedi ei gwneud o ronynnau o dywod. Miliynau o flynyddoedd yn ôl, gwasgwyd y gronynnau hyn gan bwysedd syfrdanol i ffurfio creigiau newydd. Ers hynny, mae symudiadau'r ddaear wedi troi'r creigiau ar eu hochr.

Gateholm Island and Albion Sands. Gateholm is just one of many islets off the Pembrokeshire Coast.
Ynys Gateholm a Thraeth yr Albion.

Mae tywodfaen yn graig feddal, ac mae symudiadau'r môr yn gallu ei threulio. Roedd Gateholm yn arfer bod yn rhan o'r tir, ond mae'r môr wedi treulio’r graig yn y canol, gan adael ynysig sy'n agos at y clogwyni. Mewn blynyddoedd i ddod, efallai y bydd y môr yn erydu fwy, ac fe fydd y bwlch rhwng Gateholm a'r prif dir yn dod yn fwy.

Mae ynysig yn ddarn o dir sydd bron wedi'i amgylchynu'n gyfan gwbl gan ddŵr. Yn Gateholm mae'r dŵr yn amgylchynu'r ynysig pan fydd y llanw'n uchel. Yna, caiff Gateholm ei dorri i ffwrdd oddi wrth y prif dir. Ond pan fydd y llanw'n isel, gellir cyrraedd yr ynysig o'r traeth, trwy gerdded ar draws y traeth a'r creigiau.

Riâu
Mae ria yn ddyffryn arfordirol suddedig. Ffurfiwyd Ria Solfach miliynau o flynyddoedd yn ôl. Ar ddiwedd oes yr iâ, fe dorrodd dŵr tawdd o'r rhewlifoedd yn ddwfn i'r creigiau gan ffurfio dyffryn afon dwfn â llethrau serth. Cafodd y dyffryn ei boddi wrth i lefel y môr godi, gan ffurfio'r ria rydyn ni'n ei weld heddiw.

Solva Harbour is an example of a ria.
Mae Harbwr Solfach yn enghraifft o ria yn Sir Benfro.

Mae'r creigiau yn Solfach yn Dywodfaen Cambriaidd. Mae tywodfaen yn graig waddodol. Fe'i crëwyd o dywod a ddyddodwyd miliynau o flynyddoedd yn ôl. Yna, gwasgwyd y tywod hwn o dan bwysedd syfrdanol i ffurfio craig. Mae tywodfaen yn graig y gellir ei erydu'n eithaf hawdd.

Bwâu Môr
Mae Pont Werdd Cymru yn un o'r tirnodau mwyaf enwog yng Nghymru, ac yn un o'r safleoedd mwyaf trawiadol ar Arfordir Penfro. Mae'n agos at Gastellmartin yn Ne'r sir, gerllaw Staciau Heligog a'r Crochan.

Green Bridge of Wales
​Pont Werdd Cymru cyn y difrod a achoswyd gan stormydd Ophelia a Brian.

Bwa o garreg galch yw'r Bont Werdd, a charreg galch De Arfordir Penfro sy'n gyfrifol am rhai o'r nodweddion naturiol harddaf. Ffurfiwyd y bwa pan dreuliodd y môr y graig oddi tano.

Ar un adeg, roedd y bwa yn bentir ymwthiol o graig, sy'n gwthio allan i'r môr. Roedd yn gadarn, heb unrhyw dwll na bwa i'w gweld. Fe alluogodd gwendidau yn y graig, a elwir yn gymalau neu'n blanau gwelyo, i'r môr, a grym y tonnau, dreulio'r graig. I ddechrau, mae'n debygol y ffurfiwyd dwy ogof ar naill ochr yr esgair a'r llall. Wrth i'r môr olchi mwy a mwy o'r graig i ffwrdd yn raddol, ymunodd y ddwy ogof i greu bwa.

Yn 2017 y Bont Werdd ei difrodi gan stormydd Ophelia a Brian. Un dydd, yn y dyfodol, fe fydd canol y bwa'n dymchwel, ac fe fydd y bwa'n dod yn ddwy stac.

Stacks
Mae staciau yn bileri ynysig o graig sy'n codi'n serth o'r môr. O amgylch Arfordir Penfro, mae yna nifer o greigiau stac. Ar un adeg, roedd staciau yn rhan o'r prif dir. Ond, gydag amser, mae'r môr wedi gweithio i mewn i wendidau yn y graig, a elwir yn gymalau neu'n blanau gwelyo, ac wedi eu treulio. Yr hyn sydd ar ôl yw stac sydd wedi'i gwahanu oddi wrth y prif dir. Mae rhai staciau'n ffurfio o fwâu, wedi i'r darn bwaog ddymchwel. Gwelir enghraifft o hyn ym 'hont Werdd Cymru sydd yn yr adran ynghylch bwâu.

Mae'r Staciau'r Heligog (yn Saesneg Stack Rocks) yn pâr o staciau yn garreg galch garbonifferaidd ger Castellmartin. Mae'r ddwy stac yn safleoedd nythu pwysig i'r wylog a'r wylan goesddu, dwy o'r rhywogaethau niferus o adar y môr sydd i'w gweld ar Arfordir Penfro. Mae'r adar yn dod yn ôl at y staciau yn y Gwanwyn, a gellir eu gweld o'r prif dir trwy gydol y Gwanwyn ac yn gynnar yn yr Haf. Daw'r enw Cymraeg ar y Staciau o'r enw Cymraeg arall ar yr Wylog sef 'Heligog'.

Pen yr Holt Stack
Stac Pen yr Hollt

Mae Stac Pen yr Hollt ar hyd yr arfordir o Staciau'r Heligog, ac mae ym Maes y Fyddin sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Gellir ond mynd ati ar deithiau wedi'u trefnu gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro (gwelwch ein tudalen digwyddiadau am ragor o wybodaeth). Mae'r stac fôr flaenllaw hon wedi cael ei hynysu wrth i glogwyni'r môr erydu.

Mae presenoldeb sawl sarn tanfor oddi ar y lan a llwyfandir gwrthwynebol o dan y stac ei hun, yn golygu bod y stac wedi'i gwarchod i raddau helaeth rhag grym llawn y tonnau cryfaf. Er gwaethaf ei hymddangosiad peryglus, mae'r stac, gyda'i chymalau a phlanau gwelyo amlwg, yn lloches i lystyfiant uwchben terfynau symudiadau'r tonnau.