I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Dysgu Am » Gwyddoniaeth » Daeareg » Gwarchod Daeareg

Gwarchod Daeareg

Anghofiwch am gestyll, bryngaerau o’r oes haearn, traethau tywodlyd euraidd a’r fan hufen iâ. Rydyn ni’n sôn am yr hyn sydd o dan eich traed! Yr union gerrig y mae’r Parc Cenedlaethol yn gorwedd arnynt.

Mae yna gyfanswm o 60 o safleoedd Cadwraeth Ddaearegol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyma nifer aruthrol o ystyried maint y Parc, ond nid yw’n syndod, o ystyried y morlin caregog trawiadol sy’n enwog am ei geo-amrywiaeth. Mewn gwirionedd, y safleoedd hyn a sicrhaodd ddynodiad Arfordir Penfro fel Parc Cenedlaethol flynyddoedd lawer yn ôl ym 1952!

Lafa clustog ger Pen Caer
Lafâu Clustog ger Pen Caer.

Mae’r safleoedd daearegol gwarchodedig hyn yn atyniadau poblogaidd ymhlith y cyhoedd, trwy raglen o deithiau tywys Awdurdod y Parc, ond maen nhw hefyd yn adnodd gwych wrth hyfforddi daearegwyr y dyfodol. Fe all unrhyw egin ddaearegwyr hefyd glicio ar Canolfan Darwin a digwyddiadau Cymdeithas y Daearegwyr.

Cydnabuwyd y safleoedd Cadwraeth Ddaearegol yn ystod y 1980au pan gynhaliwyd astudiaeth drylwyr iawn o’r holl safleoedd allweddol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil daearegol yn y Deyrnas Unedig. Yr enw ar yr adolygiad yw’r Adolygiad o Gadwraeth Ddaearegol.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Erbyn hyn, mae’r safleoedd hyn o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) dynodedig sydd oll yn cael eu hamddiffyn yn gyfreithiol i atal difrod neu ddistryw. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae nodweddion biolegol hefyd yn cael sylw yn neddfwriaeth SoDdGA. Efallai y bydd swyddogion yr heddlu ynghlwm ag achosion o ddifrod i SoDdGA neu darfu ar fywyd gwyllt. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n dogfennu’r safleoedd hyn, ac yn eu monitro - nhw yw cynghorwyr statudol Llywodraeth Cymru ar warchod natur.

Mae safleoedd yr Adolygiad o Gadwraeth Ddaearegol yn amrywio o chwarelau bach wrth ymyl yr heol a chlegyrau ynysig ar gopa clogwyni i gilometrau di-ben-draw o forlin. Fel canllaw cyffredinol, dylai nodweddion daearegol fod yn weladwy, yn hygyrch ac yn gallu cael eu defnyddio, er, mewn rhai achosion, efallai y bydd yna gyfyngiadau dros dro neu barhaol ar fynediad a/neu ddefnydd, er enghraifft ble mae safleoedd yn agored i niwed, ar dir preifat, neu ble mae adar yn nythu. Am y rhesymau hyn, mae’n hanfodol cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru os ydych chi’n bwriadu gwneud gwaith neu ymchwil ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cod ymddygiad daearegol
Mewn rhai lleoliadau, mae cadwraeth ddaearegol ac archeolegol yn gorgyffwrdd, ac yn yr achosion hyn fe fydd y ddeddfwriaeth sy’n trafod Henebion Cofrestredig (HC) hefyd yn berthnasol. Fe fydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau angen caniatâd cynllunio ac fe fydd Awdurdod y Parc yn ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru pan fydd ceisiadau a allai effeithio ar nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn dod i law.

Gan fod y Safleoedd Daearegol Pwysig Rhanbarthol hyn o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol, mae yna god ymddygiad a dderbynnir ar gyfer gwaith maes daearegol, hyd yn oed pan fydd y tu allan i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Safleoedd Daearegol Pwysig Rhanbarthol (SDPRh).

Yn gyffredinol, ni ddylech forthwylio na chreiddio ble allai niweidio nodweddion daearegol neu fiolegol, neu arwain at effeithiau gweledol annerbyniol.

Mae’n arbennig o bwysig nad ydych yn mynd â ffosilau neu fwynau o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig heb gael caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r perchennog tir yn gyntaf. Mae sawl ardal o forlin Sir Benfro yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi cyhoeddi canllawiau manwl.

Yn gyffredinol, mae’n well tynnu ffotograffau o ffosilau, mwynau a gweadau creigiau yn hytrach na chasglu sbesimenau i fynd adref gyda chi, er, efallai y byddai’n iawn achub ffosilau sydd mewn perygl o gael eu difetha trwy erydu sgri rhydd neu chwarelu. Os oes amheuaeth, cofiwch eich bod yn cael cyngor.

Hyfforddiant ar ddaeareg
Dylai mudiadau sy’n cynnig addysg/gweithgareddau awyr agored ymuno â Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro sy’n cynnig rhaglen hyfforddiant rad ac am ddim wedi ei chyflwyno gan arbenigwyr ym maes daeareg ac ecoleg.

Yn gyffredinol, mae dyddodion ogofaol, a ffosilau cysylltiedig, yn agored iawn i ddifrod sylweddol ac mae gwybodaeth wyddonol yn gallu mynd ar goll os fydd unrhyw un yn eu cloddio heb yr hyfforddiant a’r adnoddau iawn. Mae tarfu ar ystlumod, a allai fod yn clwydo mewn ogofau, yn drosedd ddifrifol.

Mae rhai safleoedd ffosilau yn gallu dod yn ddiwerth os caiff gormod eu casglu, ac mae ffosilau mewn calchfaen yn glir dim ond pan fyddan nhw wedi cael eu torri allan gan y tywydd. A wnewch chi dynnu ffotograffau yn unig os nad ydych wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gasglu ffosilau ar gyfer ymchwil wyddonol go iawn.