I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Castell a Melin Heli Caeriw » Hanes y Castell

Hanes Castell Caeriw

Ddiwedd yr 11eg ganrif, estynnodd y Normaniaid eu concwest o Loegr i mewn i Gymru, ac fe ddaeth Castell Penfro’n ganolfan reoli’r Normaniaid yn Ne Sir Benfro.

Cwnstabl y Castell ar ran Harri I oedd Gerald de Windsor. Penderfynodd adeiladu ei gaer ei hun ar Afon Caeriw, ryw ddeng milltir i fyny’r foryd o Benfro.

Ond nid hwn oedd yr anheddiad cyntaf ar y safle. Mae gwaith cloddio wedi datgelu anheddiad o Oes yr Haearn. Daethpwyd o hyd i gaer bentir sylweddol â phum ffos, a llawer iawn o grochenwaith Rhufeinig. Mae’n bosib fod anheddiad neu gaer o’r Oesoedd Tywyll wedi bodoli ar y safle hefyd.

Argraff artist o Gaeriw fel caer o’r Oes Haearn
Argraff artist o Gaeriw fel caer o’r Oes Haearn.

Yn ôl pob tebyg byddai caer Gerald wedi’i hadeiladu o bridd a physt pren. Codwyd Castell cerrig yn lle’r gaer honno’n ddiweddarach. Gwaith Syr Nicholas de Carew (a fu farw ym 1311) oedd llawer o’r hyn sy’n weddill o Gastell Caeriw heddiw. Ef oedd yn gyfrifol yn arbennig am y rhesi dwyreiniol a gorllewinol.

Tua diwedd y bymthegfed ganrif, cafodd y Castell ei wella a’i ehangu’n sylweddol gan gymeriad hynod liwgar, sef Syr Rhys ap Thomas (1449-1525). Addasodd y rhesi dwyreiniol a gorllewinol, a bu’n gyfrifol am lawer o’r ffenestri carreg Bath a nodweddion eraill. Roedd wedi ennill ymddiriedaeth lwyr Harri VII a Harri VIII a dywedid ei fod yn ‘rheoli’r gornel hon o Gymru fel Brenin’.

Gyda’r datblygiad olaf aeth Caeriw o fod yn gaer Ganoloesol i fod yn blasty Elisabethaidd. Adeiladodd Syr John Perrot (1530-1592) y rhes ogleddol fawreddog, â’i ffenestri anferth yn rhoi golygfa dros Lyn y Felin. Ond ni chafodd fyw i fwynhau ei gartref newydd gwych, gan iddo farw yn Nhŵr Llundain cyn y gellid cwblhau’r gwaith.

Caeriw dan warchae
Caeriw dan warchae.

Yn ystod y Rhyfel Cartref, roedd y castell ym meddiant Syr George Carew a oedd wedi datgan o blaid y Brenin, ond bu garsiwn yn y Castell gan y brenhinwyr a’r seneddwyr ar wahanol adegau. Yn wir, bu iddo newid dwylo bedair gwaith, a hynny yn dilyn ymosodiad ffyrnig ar un achlysur o leiaf. Cafodd adeiladau ar yr ochr ddeheuol, gan gynnwys y gegin, eu difrodi i rwystro’r gelyn rhag gwneud defnydd pellach o’r safle. Ar ôl y Rhyfel Cartref bu’r Castell mewn defnydd am rai blynyddoedd, ond fe’i gadawyd yn wag yn y diwedd ym 1686.

Castell Caeriw cyn i Awdurdod y Parc Cenedlaethol sicrhau’r brydles ym 1983
Castell Caeriw cyn i Awdurdod y Parc Cenedlaethol sicrhau’r brydles ym 1983.

Ym 1983, cymerodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol brydles ar y castell a’r tir o’i amgylch am 99 mlynedd. Dechreuwyd rhaglen helaeth o waith adfer a rheoli er mwyn gofalu am yr adeiladau, gwella’u hamgylchedd a hwyluso mynediad a mwynhad y cyhoedd. Rhaglen adfer hirdymor oedd hon, gan gynnwys tîm o seiri meini, diolch i gymhorthdal gan Cadw, corff Henebion Cymru.

Mae’r castell erbyn hyn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd yr ystlumod sy’n cartrefu yma ynghyd â nifer o wahanol fathau o blanhigion sy’n brin yn lleol neu’n rhanbarthol. Disgrifir y rhain ar ein tudalen Bywyd Gwyllt.

Cwblhawyd gwaith adnewyddu mawr yn Nghastell Caeriw yn 2013, gan gynnwys ailosod to’r Neuadd Fach, creu canolfan ymwelwyr a siop newydd a gwella’r maes parcio.

Carew Castle Visitor Centre
Canolfan Ymwelwyr Castell Caeriw

Cefnogwyd y cynllun gan Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw, a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Buddsoddodd Awdurdod y Parc yn y gwaith adnewyddu hefyd.

Funder Logos

Gallwch ddysgu mwy wrth lawrlwytho Canllaw Darganfod Castell Caeriw.

Canllaw darganfod Castell Caeriw