I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Awdurdod y Parc Cenedlaethol » Pwyllgorau » Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Menter gan Lywodraeth Cymru yw’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy sydd â’r nod, drwy bartneriaeth, o ddatblygu a phrofi ffyrdd i gyflawni datblygu cynaliadwy mewn ardal cefn gwlad o harddwch ac amrywiaeth mawr, lle caiff nodweddion lleol o ran diwylliant, bywyd gwyllt, tirwedd, defnydd tir a chymuned eu cadw a’u gwella. Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun yn ei ardal yn unol â chanllawiau gweithrediadol a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn darparu proses effeithiol, effeithlon, teg a thryloyw, mae Pwyllgor y Gronfa Datblygu yn cyfarfod fel bo’r angen i asesu ceisiadau i’r gronfa. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys chwe Aelod o’r Awdurdod a chwe aelod nad ydynt o’r Awdurdod (dau yr un o’r sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol).

Cynghorydd Mrs L Jenkins          Mr EA Sangster*
Cynghorydd RM Lewis                 Mrs M Thomas
Cynghorydd DWM Rees               
Cynghorydd M Williams±

* Cadeirydd;          ± Is-Cadeirydd

Mae’r chwe aelod nad ydynt o’r Awdurdod yn aelodau o’r Pwyllgor mewn rhinwedd ymgynghorol a gwneir y penderfyniadau gan Aelodau’r Awdurdod.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gronfa ar dudalennau Cronfa Datblygu Cynaliadwy y wefan