I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Cerdded yn y Parc » Llwybr Arfordir Penfro » Côd Diogelwch y Llwybr

Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

I'ch helpu i fwynhau'ch taith cerdded, a wnewch chi ddilyn Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir os gwelwch yn dda:

Arwydd Llwybr yr Arfordir


  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol.
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau.
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni.
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser.
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi.
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel.
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd.
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo.
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos.
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir.
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw.
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.