I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Ynysoedd Sir Benfro » Gwales

Gwales

Ar Ynys Gwales, sydd 6 milltir oddi ar arfordir Penfro, mae’r gytref fwyaf trawiadol o fulfrain gwynion yn ne Prydain, a’r trydydd mwyaf yn hemisffer y gogledd.

Gannets on Grassholm IslandEiddo i:
RSPB. Gwaherddir unrhyw un rhag glanio ar yr ynys.
Cyrraedd: teithiau cylch yn yr haf o Martins Haven, Dale a Neyland (gweler yr Hysbysebion Bach).
Ardal y Parc: Gorllewin Cyfeirnod Grid SM598092

Ystyr yr enw Saesneg ar yr ynys, ‘Grassholm’, yw’r “ynys werdd” ac mae’n dod o’r iaith Norseg,. Er, mae’r ynys yn edrych yn wyn o bellter, oherwydd yr ysgarthion a’r holl fulfrain gwynion sy’n eistedd ar eu nythod. Mae tua 32,000 o barau yn bridio yma o fis Ebrill i fis Medi, ac felly Gwales yw’r profiad eithaf os am weld, clywed ac arogli adar y môr yn Sir Benfro. Erbyn mis Gorffennaf, oherwydd y cywion bach a’r adar sydd ddim yn bridio yma ond sy’n defnyddio’r ynys i gymdeithasu ac i glwydo, mae nifer y mulfrain gwynion yn codi i tua 100,000.

Grassholm IslandMae yna nifer fach o wylanod y graig, gwylanod coesddu, heligogod, gweilch y penwaig, ac ambell fulfran werdd i’w gweld ar yr ynys hefyd. O ganol yr haf, gellir gweld hyd at 120 o forloi llwyd yn gorwedd ar y creigiau pan fydd y llanw’n isel.
Ers 1947, mae Gwales wedi bod yn eiddo i Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (yr RSPB), a dyma’r warchodfa gyntaf i’r Gymdeithas ei phrynu. Mae sawl cwmni cychod yn cludo teithwyr ar deithiau o amgylch yr ynys, ond nid ydynt yn glanio ar yr ynys.

Yn yr Oesoedd Canol, defnyddiwyd Gwales i bori defaid yn ystod yr haf. Mae yna gaeadle bach ar yr ynys ac mae’n bosib y cafodd ei ddefnyddio i’w corlannu er mwyn eu cneifio.