I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Cynllunio Eich Ymweliad » Oriel y Parc » Gwybodaeth Lleol » Llefydd i ymweld â nhw

Llefydd i ymweld â nhw

Dinas Tyddewi

St Davids Cathedral
Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Enwyd y ddinas ar ôl nawdd sant Cymru, Dewi Sant, ac mae wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers 1120, pan gydnabuwyd Dewi yn swyddogol fel sant Pabyddol a daeth yr Eglwys Gadeiriol yn gyrchfan swyddogol i bererinion. Er gwaethaf ei statws fel dinas, mae ganddi boblogaeth o lai na 2000 o bobl. O Oriel y Parc, crwydrwch i mewn i ganol hudolus a hanesyddol y ddinas gyda’i horielau celf, siopau rhoddion a chaffis, ac yna ymlaen i’r Eglwys Gadeiriol ganoloesol goeth a Llys yr Esgob.

Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro

Coast Path walkers near St Nons
​Cerddwyr ar Lwybr yr Arfordir ger Bae Santes Non.

Un o’r ffyrdd gorau o weld yr arfordir trawiadol yw oddi ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n ymestyn 186-milltir ar hyd yr arfordir. Defnyddiwch un o’n bysiau arfordirol – y Crwydrwr Celtaidd i gyrraedd neu i ddod yn ôl.

Ynys Dewi

Seal pup on Ramsey Island
Morlo bach ar Ynys Dewi.

Mae Ynys Dewi yn eiddo i'r RSPB ac mae'n wledd i'r rheiny sydd wrth eu bodd yn gwylio adar, gyda llond lle o rywogaethau fel heligogod, gweilch y penwaig, gwylanod coesddu a phalod. Mae'r ynys hefyd yn gartref i un o'r cytrefi mwyaf o forloi llwyd yr Iwerydd yn y Deyrnas Unedig, a gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn. Gellir gweld y llamhidydd hefyd. Mae yna sawl taith cwch o'r prif dir i Ynys Dewi ei hun ac i'r dyfroedd o'i hamgylch.

Porth Mawr

Whitesands Bay
​Porth Mawr.

Traeth tywodlyd crom sy'n filltir o hyd ac yn wynebu'r gorllewin, Mae wedi ennill y Faner Las a chredir ei fod yn un o'r traethau gorau yn y wlad. Mae'r Porth Mawr yng nghysgod Ynys Dewi ac yn berffaith i unrhyw un sy'n hoffi syrffio neu badlo yn y dŵr. Pan fydd y llanw'n isel iawn gellir gweld olion coedwig hynafol, gyda boncyffion coed bedw, pinwydd, cyll a derw. Gellir parcio ger y traeth ac mae'r achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod misoedd yr haf.

Penmaendewi

Coetan Arthur, St Davids Head
Coetan Arthur, Penmaendewi.

Tu allan i ffiniau’r ddinas ym Mhenmaendewi, cewch brofi amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd bywyd gwyllt ar y clogwyni a’r dyfroedd o amgylch. Chwiliwch am y frân goesgoch a’r ehedydd ar y llethrau glaswelltog, a’r mulfrain gwynion a’r llamhidyddion allan yn y môr. Troediwch trwy’r Fryngaer o’r Oes Haearn ar Benmaendewi neu archwiliwch y siambr gladdu Neolithig, Coetan Arthur.

Carn Llidi

Ramsey Island from Carn Llidi
​Edrych draw i Ynys Dewi o Garn Llidi.

Os am olygfeydd gwefreiddiol, fe all cerddwyr sy'n hyderus ar eu traed anelu am gopa Carn Llidi (595tr; 181m) - un o'r bryniau gorau yn Sir Benfro. Oddi yma, gellir gweld cromlin cyfan morlin tonnog Sir Benfro ac, ar ddiwrnod clir, Bryniau Wicklow yn Iwerddon. Wrth i chi agosáu at y bryn, cymerwch ysbaid i ymweld â'r siambr gladdu 5000 blwydd oed yng Nghoetan Arthur, sydd â phenllech 8 troedfedd a cherrig cynnal.

Maes Awyr Tyddewi

St David's Airfield
Maes Awyr Tyddewi.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Maes Awyr Tyddewi yn fan o weithgarwch parhaus wrth i Rheolaeth Arfordirol y Llu Awyr Prydeinig gymryd rhan ym Mrwydr yr Atlantig. Heddiw, mae Maes Awyr Tyddewi yn lle heddychlon. Yn y Gwanwyn, mae ehedyddion yn llenwi’r awyr gyda’u cân barhaus.

Yng nghanol y 1990au, fe brynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y rhan fwyaf o’r maes awyr nad oedd yn cael ei ddefnyddio ac fe ddechreuodd brosiect tirweddu sylweddol i adfer ac ail-greu cynefinoedd bywyd gwyllt ac i ddiogelu mwynhad a mynediad y cyhoedd. Dychwelwyd gweddill y maes awyr at ddefnydd ffermio.