I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Byw Yn » Cronfa Datblygu Cynaliadwy » Astudiaethau Achos y CDG » Pen Cemaes Himalayan Balsam

Pen Cemaes Himalayan Balsam

Mae cefnogaeth gref, llawer iawn o waith caled a chyfraniad y gymuned wedi cymryd camau breision tuag at ddileu’r pla-blanhigyn ymledol Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam) o safle 32 erw ar Pen Cemaes yng Ngogledd Sir Benfro.

Drwy adeiladu ar lwyddiant blaenorol o ymdrin â rhywogaeth planhigyn ymledol arall (Llysiau'r Dial - Japanese Knotweed), derbyniodd Cymdeithas Gymunedol Llandudoch £22,650 o gyllid y Gronfa Datblygu Cynaliadwy dros ddau dymor tyfu yn olynol i gael gwared, atal lledaenu a chyfyngu ar dwf aruthrol Jac y Neidiwr ar dirwedd heriol Pen Cemaes.

Roedd y technegau a ddefnyddiwyd yn ddibynnol ar y safle, ac yn eu plith roedd ffustio, llifio cadwyn, torri prysgwydd a thynnu â llaw yn ôl y galw. Mae'r holl waith caled a phenderfyniad diwyro wedi llwyddo i leihau nifer y planhigyn o ddwysedd o 350 o blanhigion fesul m2 mewn mannau i ddim ond ambell blanhigyn fan hyn a fan draw.

Llun:      Jac y Neidiwr yn ei flodau â phennau yn llawn hadau

Jac y Neidiwr yn ei flodau â phennau yn llawn hadau

Gall pob planhigyn gynhyrchu unrhyw beth rhwng 600 a 2,500 o hadau. Efallai bod y planhigyn yn edrych yn bert, ond mae'n ymledu’n gyflym; gan ddisodli planhigion brodorol ac o ganlyniad yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth, sefydlogrwydd y pridd ac ansawdd y dŵr.

Y dulliau a ddefnyddiwyd


  • Mapiwyd yr ardal yr effeithiwyd arni i weld beth yn union oedd maint a graddfa’r broblem.
  • Cafodd y technegau a'r dulliau mwyaf priodol i’w defnyddio eu clustnodi, a mabwysiadwyd dulliau oedd yn benodol addas i’r lleoliad.
  • Gofynnwyd am ganiatâd i gael mynediad ar y tir a chytunwyd i hynny gan y mwyafrif o’r tirfeddianwyr yn yr ardal yr effeithiwyd arni.Roedd hon yn dasg hynod bwysig ond yn dasg fyddai’n cymryd llawer o amser. Roedd angen i'r tirfeddianwyr nid yn unig ddeall y broblem, y camau arfaethedig o weithredu, potensial y tir yn y dyfodol a'r opsiynau cynaliadwy o reoli’r tir yn y tymor hir, ond hefyd i ganiatáu i wirfoddolwyr gael mynediad ar eu tir, ac yn ddelfrydol i gymryd rhan weithredol eu hunain yn y rhaglen waith. Er mwyn cefnogi'r prosiect roedd angen iddynt ddeall gwerth a manteision y prosiect.
  • Codwyd hysbysfyrddau ger safleoedd y prosiect er mwyn ennyn ymwybyddiaeth o’r prosiect, effaith Jac y Neidiwr ar fioamrywiaeth, a’r camau a argymhellwyd i’r cyhoedd eu cymryd petaent yn dod ar draws y planhigyn.
  • Roedd sgyrsiau, cyflwyniadau a mynychu cyfarfodydd yn ffyrdd eraill yr oedd y Rheolwr Prosiect wedi rhannu’r wybodaeth a'r profiad a gafwyd.
  • Roedd ymylon allanol yr ardal yr effeithiwyd arni wedi’u diffinio i greu llinell amddiffyn i atal unrhyw aildyfiant pellach ac i atal lledaenu.
  • Cyflogwyd contractwr arbenigol lleol oedd â pheiriannau priodol i wneud y gwaith cychwynnol o glirio.

Lluniau:                Cae cyn ac ar ôl i’r contractwyr glirio’r tir gyda’r peiriant ffustio

Cae cyn ac ar ôl i’r contractwyr glirio’r tir gyda’r peiriant ffustio.  Cae cyn ac ar ôl i’r contractwyr glirio’r tir gyda’r peiriant ffustio.

 Roedd angen gwneud hyn gan fod y dirwedd mewn mannau yn anodd iawn, gyda llethrau serth a degawdau o dyfiant drain a mieri.


  • Roedd gwirfoddolwyr oedd wedi’u hyfforddi gan y prosiect i ddefnyddio torrwr prysglwyni a llif gadwyn yn gweithio ar ardaloedd penodol

Llun: Gwirfoddolwyr yn torri prysglwyni

  Gwirfoddolwyr yn torri prysglwyni


  • Ar ôl i’r peiriannau ffustio neu dorri’r prysglwyni roedd gwirfoddolwyr rheolaidd yn tynnu’r planhigion oedd yn weddill â llaw.
  • Cliriwyd yr ardal o’r ochr allanol i mewn.
  • Talwyd sylw arbennig i glirio'r planhigyn ger y nentydd (gan weithio i lawr yr afon), llwybrau troed, llwybrau ceffylau, ffyrdd a llwybrau anifeiliaid gan fod y rhain yn gyfrwng i ledaenu’r planhigyn.
  • Gwnaed y gwaith clirio yn systematig bob mis o fis Mehefin tan fis Hydref.
  • Gwelwyd bod chwistrellu chwynladdwr yn broses rhy gostus ar gyfer y math o dir a’r mannau lle’r oedd Jac y Neidiwr yn tyfu.

Canlyniadau

Ar ôl blwyddyn gyntaf y prosiect, roedd arolwg o’r ardal yn dangos bod dwysedd Jac y Neidiwr wedi lleihau yn sylweddol fesul m2 o arwynebedd tir, o ddwysedd rhwng 249-350 o blanhigion fesul m2 fis Mehefin 2012 i ddwysedd planhigion rhwng 4 -10 fesul m2 fis Mehefin 2013. Roedd hyn wedi gwella eto fyth yn yr ail flwyddyn i adael ond ambell blanhigyn fan hyn a fan draw fydd angen sylw pellach yn 2014.

 Mehefin 2012 Mehefin 2013

Mehefin 2012                                                                Mehefin 2013

Mae'r canlyniadau cadarnhaol a welwyd dros y ddwy flynedd wedi dangos pa mor effeithiol oedd defnyddio cyfuniad o wahanol ddulliau yn dibynnu ar y gwahanol gynefinoedd, llethr y tir, dwysedd Jac y Neidiwr a’r tyfiant mieri, y ddraenen ddu a rhedyn.

Hyfforddiant Sgiliau

Yn ystod y ddwy flynedd o gyllido, hyfforddwyd pobl leol a phobl ifanc yn y gwaith ymarferol o reoli rhywogaethau ymledol, ond hefyd mewn defnyddio torrwr prysglwyni (wyth o bobl), gwaith llif gadwyn (dau o bobl), cymorth cyntaf (deg o bobl). Yn gyfnewid am hyn rhoddodd yr unigolion a hyfforddwyd oriau lawer o amser gwirfoddol i'r prosiect. Roedd yr agwedd hon o’r prosiect wedi arwain at fanteision economaidd-gymdeithasol annisgwyl yn ogystal â'r manteision amgylcheddol a ragwelwyd. Roedd wedi gwella hyder, lles a chyfleon y cyfranogwyr i gael gwaith ac wedi arwain at dri o'r gwirfoddolwyr yn sicrhau gwaith llawn amser yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn ystod y prosiect.

Gwersi a Ddysgwyd


  • Peidiwch â chael eich llethu gan faint y broblem ond ewch ati i ymdrin â'r dasg mewn modd pwyllog a threfnus.
  • Cymerwch unrhyw gyfleoedd sy’n codi i sicrhau manteision ychwanegol megis manteision economaidd-gymdeithasol yn ogystal â manteision amgylcheddol
  • Mae’r chwilio am wirfoddolwyr newydd yn broses barhaus
  • Ni ddylai'r llwyth gwaith o reoli'r prosiect, delio â'r gofynion gweinyddol, trefnu gwirfoddolwyr, darparu goruchwyliaeth a gwasanaeth cymorth cyntaf a chwrdd a thrafod gyda thirfeddianwyr gael ei ddiystyru. Mae'n cymryd llawer iawn o amser, ymdrech ac ymroddiad.
  • Mae gwybodaeth leol am yr ardal a'r tir yn ogystal â gwybodaeth arolwg ordnans yn hanfodol bwysig.
  • Mae codi ymwybyddiaeth ac addysg yn elfennau cwbl hanfodol ar gyfer prosiect llwyddiannus.
  • Mae angen bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion a cheisiadau pawb sy'n ymwneud â’r prosiect.
  •  Y gallu i ddygymod â thywydd gwael!

Beth nesaf?

Y nod yn y tymor hir yw cael gwared yn llwyr â’r rhywogaeth o'r ardal. Fodd bynnag, bydd hyn yn gofyn am waith dilynol pellach a gwaith ymestyn i gynnwys perchnogion tir yn mabwysiadu arferion tir cadwraeth. Mae angen gwaith dilynol i glirio hadau oedd yn hwyr yn egino yn ogystal â phlanhigion oedd wedi gwahanu a phlanhigion ynysig na chafodd eu difa gan y prosiect. Y gobaith yw y bydd rhai tirfeddianwyr yn ymrwymo i gytundebau rheoli tir gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn y pen draw bydd y tir a gliriwyd naill ai yn cael ei ddychwelyd i dir amaethyddol cynhyrchiol neu’n cael ei adael i aildyfu i gynefin mwy naturiol sy'n cynnal rhywogaethau brodorol o blanhigion gyda llawer gwell bioamrywiaeth.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn parhau i rannu arferion gorau a gobeithio, yn ysbrydoli eraill i weithredu.