I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

< Yn ôl   Hafan Castell Henllys   Dod o hyd i ni

Castell Henllys a thu hwnt

Darganfod safleoedd cynhanes Sir Benfro...

Ble bynnag mae pobl yn mynd, rydym yn gadael ein hôl ar yr amgylchedd. Doedd y bobl oedd yn byw yng ngogledd Sir Benfro ddim yn eithriad. Gadawsant eu hôl ar y dirwedd fel cliwiau i ni greu darlun o’u bywydau a’u storïau.

Gors Fawr – Cylch cerrig, wedi’i godi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.
Gors Fawr – Cylch cerrig, wedi’i godi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ewch ychydig bach pellach na Chastell Henllys a chewch barhau ar eich taith o amgylch safleoedd cynhanes Sir Benfro.

Gelwir y dirwedd arw hon lle saif Castell Henllys yn Wlad Hud a Lledrith.

Mae saith safle cynhanes pwysig yn y rhan hon o’r Parc Cenedlaethol sy’n dangos i ni cymaint o gysylltiad oedd gan y Celtiaid â’r tir hwn.

Yng Nghanolfan Ymwelwyr Castell Henllys, edrychwch am wybodaeth am y safleoedd arbennig hyn, yna dilynwch hanes Sir Benfro yn y cyfnod cynhanes drwy ymweld â’r safleoedd.

Castell Henllys a thu hwnt

Y safleoedd yw:

Crugiau Cemaes – Safle claddu o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn
Carreg Coetan Arthur – Cromlech Neolithig
Dinas Mawr – Caer o’r Oes Haearn (swyddogaeth anhysbys)
Pentre Ifan – Cromlech Neolithig
Foel Drygarn -  Tair tomen gladdu o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn
Carn Meini – Creigiau dolerit, a elwir yn gerrig gleision
Gors Fawr – Cylch cerrig, wedi’i godi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

< Yn ôl   Digwyddiadau   Cysylltu â ni