I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Tyddewi » Bywyd Dewi Sant

Bywyd Dewi Sant

Prin yw’r wybodaeth sydd gennym ar fywyd Dewi Sant, ac mae llawer o’r cyfrif isod yn deillio o chwedlau lleol.

Dywedir i’r dewin Myrddin a San Padrig ddarogan ei enedigaeth. Enw ei fam oedd Non ac enw ei dad oedd Sant, ac roedd y ddau o dras Gymreig frenhinol.

Ganed Dewi Sant tua 530 O.C. ar gopa’r clogwyn ym Mae’r Santes Non, yn ystod storom ofnadwy. Wrth i’r plentyn gael ei eni, gwelwyd ffynnon ddŵr yn tarddu o’r creigiau, a chredir hyd heddiw ei bod yn ffynnon sanctaidd. Cafodd ei fedyddio ym Mhorthclais gan Eilw (Elvis yn y Lladin neu Ailbhe mewn Gwyddeleg), sef Esgob Munster yn Iwerddon. Fe’i hanfonwyd i gael ei addysgu gan y mynachod - dyma oedd y drefn ymhlith llawer o feibion teuluoedd cefnog bryd hynny. Aeth Dewi i Hendy-gwyn, ac yno cafodd ei addysgu gan Paulinus a oedd yn ddall. Dywedir mai gwyrth gyntaf Dewi Sant oedd adfer golwg Paulinus, a agorodd ei lygaid i weld cennin Pedr am y tro cyntaf.

Fe adawodd Dewi Hendy-gwyn gyda grŵp bach o’i gyd-fynachod ac fe ddaeth tua’r gorllewin i Fynyw (yr hen enw Cymreig ar bentref Tyddewi) i sefydlu anheddiad fynachaidd. Ceisiodd pennaeth llwyth lleol o’r enw Boia yrru Dewi a’i ddilynwyr i ffwrdd, ond wrth i Foia a’i ddynion ymosod, syrthiodd y dynion a’u gwartheg fel petaent wedi marw. Yn ei ofn, rhoddodd y tir yng Nglyn Rhosyn i Dewi ar gyfer ei gymuned, a daeth yntau’n Gristion ei hun.

Unwaith i’r gwrthdaro yn erbyn Dewi bylu, gwelwyd dynion a gwartheg Boia'n gwella. Ond, nid tasg mor hawdd oedd argyhoeddi gwraig Boia. Anfonodd ei morynion i nofio’n noethlymun yn yr Afon Alun, i demtio dilynwyr Dewi i dorri eu haddewidion, ond fe ddywedodd Dewi wrth ei ddilynwyr am gau eu llygaid. Fel un ymdrech olaf, fe aberthodd wraig Boia ei merch, i geisio eu gyrru i ffwrdd, ond wedi sylweddoli'r hyn yr oedd hi wedi ei wneud, aeth yn wallgof ei hun. Torrodd Boia ei galon dros ei golled ac, unwaith eto, ceisio ymosod ar Ddewi, ond roedd pennaeth Gwyddelig o’r enw Lisci newydd lanio gerllaw ac ymosododd ar wersyll Boia a’i ladd - nid oedd fawr o amddiffyniad gan y gwersyll. Mae enwau Boia a Lisci yn dal i fyw mewn enwau llefydd lleol.

Roedd bywyd yn galed i’r mynachod, roedden nhw’n aredig eu caeau eu hunain, heb ddefnyddio ceffyl nac ych i dynnu’r aradr. Roedden nhw’n byw ar lysiau a dŵr. Fe fyddai’r mynachod yn sefyll hyd eu gwddf mewn dŵr fel cosb, a chyfeiriwyd at Ddewi fel 'y dyfrwr'. Aethant ar bererindodau, a chredir i Ddewi Sant fynd i Rufain, ac i Jerwsalem, ble cafodd ei gysegru fel Archesgob.
Fe fu Dewi Sant yn teithio yng Nghymru hefyd. Aeth i gyfarfod o’r synod yn Llanddewi Brefi ble bu’n siarad â’r bobl. Cymaint oedd y dorf fel nad oedd modd ei glywed na’i weld. Rhoddodd Dewi Sant hances ar y llawr a sefyll arni, ac yna fel yr anerchodd y dorf, cododd y ddaear o dan ei draed fel bod modd i bawb ei weld a’i glywed.

Fe fu farw Dewi Sant ar Fawrth y cyntaf, 589 O.C. pan ddaeth angylion i lawr o’r nefoedd i gymryd ei enaid. Cafodd ei gydnabod fel sant gan y Pab Calixtus ym 1123, a’i gydnabod fel Nawdd Sant Cymru. Bryd hynny, roedd Rhufain yn dod braidd yn rhy boblogaidd ymhlith pererinion, gymaint felly fel y bu’n rhaid i rai o bontydd y ddinas gael eu gwneud yn bontydd unffordd. I ddatrys y broblem o orboblogi, dywedir i’r Pab Calixtus archddyfarnu bod dwy bererindod i Dyddewi gyfwerth ag un i Rufain.