I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Byw Yn » Blog

Blog

Blog

Dolydd gwair, gloÿnnod byw a briwio rhedyn

Julie Garlick Swyddog Cadwraeth yn datgelu beth y mae wedi’i weld o gwmpas y Parc Cenedlaethol yng Ngorffennaf.

I mi, mae Gorffennaf yn gyfystyr â dolydd gwair. Maen nhw ar eu gorau – yn llawn blodau a sŵn pryfed. Wrth i chi gerdded drwy ddolydd yr adeg yma o’r flwyddyn, gallwch glywed pennau hadau sych y gribell felen yn erbyn eich coesau a gweld y gloÿnnod byw wrth i chi darfu arnynt ymysg y gweiriau uchel. Mae ehedyddion, cacwn a cheiliog y rhedyn yn ychwanegu at synau’r haf. Bendigedig.

Flower-filled meadows near Mynachlogddu
Dolydd llawn blodau ger Mynachlogddu

Mae’n destun gofid felly bod yr olygfa yma wedi diflannu bron o gefn gwlad Prydain. Credir yn gyffredinol bod 98% o ddolydd gwair wedi diflannu ers y 1930au. Dydi plant heddiw erioed wedi cael y profiad o fwynhau rhedeg drwy gaeau’n llawn blodau a chwilod, a phrofi’r synau a’r arogleuon sydd ynddynt. Bydd yn anodd i genedlaethau’r dyfodol ddiogelu rhywbeth nad ydynt erioed wedi cael profiad ohono.

Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud yr hyn y mae’n gallu i warchod y dolydd sydd ar ôl, trwy gytundebau â’r bobl sy’n berchen arnynt, a hefyd rydym yn annog perchnogion tir i greu rhai newydd. Mae’r Awdurdod yn rheoli llawer o’i dir glas fel hyn, er enghraifft yng Nghastell Caeriw, Maes Awyr Tyddewi a Skrinkle Haven. Gall mynwentydd hefyd, os ydych yn eu rheoli’n addas, ddiogelu’r cynefin prin yma.

Carew Castle’s colourful meadow of buttercups and sorrel.D
ôl liwgar llawn blodau menyn a suran yng Nghastell Caeriw.

Bydd raid i chi fod yn sydyn os ydych eisiau gweld y dolydd yma yn eu holl ogoniant, oherwydd ym mis Gorffennaf mae’r rhain yn arfer cael eu torri. Yn y blynyddoedd diwethaf mae tywydd ansefydlog yr haf wedi ei gwneud yn anodd cael gwair da, ond gyda thywydd sych eleni mae wedi bod yn llawer haws. Gwaetha’r modd, bellach mae mor sych nes bod y borfa wedi rhoi’r gorau i dyfu ac mae'n dechrau llosgi, gan golli ei werth maethol. Mae’r gwaith o dorri’r gwair felly wedi hen ddechrau.

Annual rake-off at Stackpole Church, with Park staff, volunteers and church wardens.
Cribinio blynyddol yn Eglwys Ystagbwll, gyda staff y Parc, gwirfoddolwyr a wardeniaid eglwys.

Mae’r gloÿnnod byw yn mwynhau’r tywydd braf ar ôl nifer o hafau gwael. Y gloÿnnod byw yr wyf yn eu gweld yn y caeau gwair ar hyn o bryd gan mwyaf yw gweirlöyn y ddôl, gweirlöyn y glaw a’r gwibiwr. Cefais wledd y diwrnod o’r blaen pan oeddwn yn cerdded ar hyd llwybr yr arfordir ger Pen Strwmbl; mewn 100 llath gwelais dri dwsin o Frithegion Gwyrdd yn hedfan a hofran o gwmpas y llystyfiant. Roeddwn wedi cerdded i ardal fridio. Welais i erioed gymaint o’r gloÿnnod byw oren mawr, llachar yma mewn un llecyn o’r blaen! Mae’r rhan yma o’r arfordir yn un o’r llefydd gorau i’w gweld.

Dark green fritillaries mating.
Brithegion Gwyrdd yn paru.

Fel arfer mae’r brithegion yma i’w gweld mewn ardaloedd o redyn, hynny yw, os nad yw’r rhedyn yn rhy drwchus fel bod lle i fioledau dyfu oddi tanynt. Unwaith mae'n tyfu’n uchel a thrwchus, mae'n cysgodi popeth arall, felly dyna pam fod ein Wardeniaid yn brysur yn ‘ briwio’r rhedyn’ ar gyfer perchnogion tir ar hyn o bryd.

Bracken rolling above Marloes beach.
Rholio rhedyn uwchlaw traeth Marloes.

Nid y bwriad yw cael gwared ar y rhedyn ond yn hytrach ei deneuo. Fel gyda phlanhigion eraill sy’n gallu cymryd drosodd - drain, eithin, dail poethion - maen nhw’n werthfawr i fywyd gwyllt. Y gamp yw cael cydbwysedd.


National Park Nature Diary
A gyhoeddwyd 03/08/2018


blaenorol

 1 to 1 of 1