I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Byw Yn » Blog

Blog

Blog

Mwynhewch daith gerdded i'r pwynt uchaf yn y Parc!

Mae’r daith gerdded yma o gwmpas Rosebush a chopa Foel Cwmcerwyn yn cynnig cyfle gwych i losgi calorïau ychwanegol Ŵyl y Nadolig i ffwrdd, neu fel esgus i fynd allan o'r tŷ.

Mae hwn yn daith o 4.8 milltir o hyd, wedi'i nodweddu gan draciau coedwig, rhostir agored, caeau a da byw. Disgwyliwch fod y ddaear yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau oherwydd y tywydd diweddar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad addas - mae dillad dwr a dillad gwynt ac esgidiau cryf gyda chefn dwfn a chefnogaeth ffêr yn hanfodol wrth gerdded yn y gaeaf.


Ar anterth y ffrwydrad adeiladu fe gyflogai’r chwarelau 100 o ddynion.

Mae'r daith yn dechrau ac yn dod i ben ym mhentref Rosebush yn y maes parcio y tu ol ir dafarn a'r bwyty cyfagos, y Tafarn Sinc. O'r lleoliad yma, ewch yn ôl i fyny'r bryn ac ewch ir chwith ar hyd y llwybr ceffylau tuag at y chwarel, lle byddwch chi'n pasio heibio bythynnod teras Rosebush ar y chwith.

Roedd llechi wedi cael ei chwareli ar raddfa fach yng Nghwarel Bellstone Rosebush o 1820, ond wnaeth ffyniant adeiladu tai'r oes Fictoraidd ysgogi'r galw mawr am lechi toeau a slabiau, a'r galw hwn a ddaeth â buddsoddiad newydd i'r ardal hon o Ogledd Sir Benfro. Agorwyd chwarel Rosebush yn 1842 a daeth y ddau gwarel cyfagos i mewn i gynhyrchiad llawn yn ystod y 30 mlynedd diwethaf o'r 19eg ganrif. Ar ei huchaf, roedd y chwareli'n cyflogi 100 o ddynion, ac roedd llawer ohonynt yn byw yn y 26 o fythynnod teras Rosebush gyda'u teuluoedd.


Wedi i’r farchnad lechi ddirywio, fe geisiodd perchnogion y chwarelau werthu Rosebush fel cyrchfan gwyliau, gan roi cyhoeddusrwydd i fanteision aer y Preseli a’r cyfleusterau yng Ngwesty haearn rhychiog y Prescelly, a ail-enwyd bellach yn Tafarn Sinc.

Agorwyd rheilffordd yn y 1870au i gludo'r llechi, gan gysylltu'r chwarel a phentref Rosebush i’r brif linell i Llundain i'r De. Yn anffodus roedd y galw cynyddol mewn llechi yn fyr iawn, ac roedd y ddau chwarel wedi mynd allan o fusnes erbyn 1908 a chafodd y rheilffordd ei gau am y tro olaf ym 1949.

Y tu hwnt i'r pentref a'r hen chwareli mae'r llwybr yn arwain tua’r gogledd ddwyrain trwy goedwig Pantmaenog, ar hyd traciau coedwig am tua 1.2 milltir cyn cyrraedd brig y dyffryn. Yma, trowch i'r dde i gyfeiriad y dwyrain ar hyd y Ffordd Aur, credir fod y llwybr hynafol yma sy'n dilyn llinell crib y Preseli, yn dyddio'n ôl 5,000 o flynyddoedd i'r cyfnod Neolithig.


Copa Foel Cwmcerwyn yw’r pwynt uchaf yn y Parc Cenedlaethol, ar 536m (1,757tr).

Mewn tua hanner milltir, byddwch yn troi oddi ar y Ffordd Aur I’r dde tua gyfeiriad y de ar draws rhostir agored tuag at Foel Cwmcerwyn. Copa Foel Cwmcerwyn yw'r pwynt uchaf yn y Parc Cenedlaethol ar 536 metr (1,757 troedfedd) ac mae'n cynnig golygfeydd gwych ar ddiwrnod clir, sy'n edrych dros y rhan fwyaf o Sir Benfro a hyd yn oed mor bell â Dyfnaint ac Iwerddon.

Wrth i chi fynd lawr o gopa Foel Cwmcerwyn, a mynd tua’r De Orllewin, byddwch yn ymuno â'r llwybr Ceffyl uwchben Coedwig Pantmaenog am tua milltir, cyn ymuno â'r llwybr troed sy'n arwain tua’r Gogledd Orllewin ar draws caeau i ddychwelyd i lawr tuag at bentref Rosebush, ac i ddiwedd eich taith gerdded a lle Dechreuoch chi.

Cliciwch y ddolen i lawrlwytho map o’r llwybr hon, sy’n un o'n casgliad o Deithiau Gwe sy'n cynnwys dros 200 o deithiau cylchol, gyda’r rhan fwyaf yn gynnwys rhan o Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.

I weld yr holl rhestr, ewch i​ www.arfordirpenfro.cymru/teithiaugwe.


Taith y Mis
A gyhoeddwyd 21/12/2018


blaenorol

 1 to 1 of 1