I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Brwydrau a Phriodasau Canoloesol yng Nghastell Caeriw

Deffrwch eich dychymyg gyda gornestau, priodasau a brwydrau mewn gwersyll Canoloesol yn awyrgylch hynafol Castell a Melin Heli Caeriw yn ystod penwythnos gŵyl y banc (dydd Sadwrn 24 i ddydd Llun 26 Awst).

Ymunwch â BOARS (Cymdeithas Ail-greu Digwyddiadau Brawdoliaeth Aman) yn eu gwersyll yng Nghaeriw lle gallwch gael blas ar fywyd yn yr Oesoedd Canol. Cewch wisgo arfwisg, defnyddio cleddyf, cymryd rhan mewn hyfforddiant arfau er mwyn paratoi i frwydro, neu ddefnyddio bwa a saeth drwy roi cynnig ar saethyddieth. 

Join the BOARS re-enactment society for an entertaining Medieval encampment weekend at Carew Castle this Bank Holiday weekend.
Ymunwch â chymdeithas ail-greu digwyddiadau BOARS am benwythnos o adloniant Canoloesol yng Nghastell Caeriw yn ystod penwythnos gŵyl y banc.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Mae'r digwyddiad hwn, sy’n addas i deuluoedd, yn gyfle gwych i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a chael eu diddanu gan gymeriadau Canoloesol.

“Bydd milwyr a gornestau i'w gweld, a phriodas Ganoloesol hyd yn oed, gyda gwledd briodas i gyd-fynd â hi. Mae’n sicr o fod yn achlysur lliwgar a bywiog lle bydd cyfle i ddysgu llawer am fywyd yn y Castell a chael eich diddanu ar yr un pryd.”

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal rhwng 10am a 4pm bob diwrnod am yr un pris mynediad ag arfer, oni bai am dâl bach ychwanegol i roi cynnig ar saethyddiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am brisiau mynediad Castell Caeriw, ewch i www.castellcaeriw.com neu ffoniwch 01646 651782.

Gyhoeddi 19/08/2019



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion