Hafan » Amdanom Ni » Newyddion
Bydd y grŵp gwerin Cymreig Brenig yn perfformio noson o gerddoriaeth hyfryd wrth y tân ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys o 7pm tan 9pm nos Sadwrn 24 Awst.
Mae cerddoriaeth y band o Aberystwyth yn adrodd chwedlau llên gwerin Cymru, ei thraddodiadau, hanes, cariad a chefn gwlad.
Bydd y grŵp gwerin Cymreig Brenig yn perfformio Songs from the heart of Wales ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys o 7pm tan 9pm nos Sadwrn 24 Awst.
Dywedodd Delun Gibby, Rheolwr Castell Henllys: “Bydd Brenig yn perfformio eu caneuon gwerin gwreiddiol sydd wedi’u cyfansoddi mewn arddull fodern a thraddodiadol, yn cynnwys traciau sydd wedi’u seilio ar arwyr lleol fel Jemima Nicholas.”
“Caiff eu halawon eu hysbrydoli gan ddylanwadau o bob rhan o’r byd yn cynnwys cerddoriaeth Geltaidd, Cajwn ac Asiaidd ac amryw o genres megis gwerin, canu gwlad a chanu’r felan.
“Ymunwch â ni am noson lawn hwyl o ganeuon a storïau wedi’u gosod yn awyrgylch arbennig Castell Henllys.”
Bydd caffi Y Sgubor ar y safle ar agor tan 7pm yn gweini diodydd poeth ac oer ynghyd â chacennau.
Mae’r tocynnau ar gyfer Brenig: Songs from the Heart of Wales yn £10 i oedolion a £5 i blant.
Mae’n rhaid i chi archebu lle. Ffoniwch 01239 891319 i gadw eich lle.
I gael rhagor o wybodaeth am Bentref Oes Haearn Castell Henllys, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cael ei reoli ganddo, ewch i www.castellhenllys.com.
Gyhoeddi 20/08/2019