I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Dysgu Am » Gwybodaeth ac Adnoddau » Diwylliant a Threftadaeth » Ardaloedd Treftadaeth Anhygoel

Ardaloedd Treftadaeth Anhygoel Arfordir Penfro

Mae’r Parc Cenedlaethol yn llawn archaeoleg. O amgylch bron pob cornel, fe gewch chi ryw gipolwg ar y gorffennol, ond dyma ambell awgrym ar gyfer llefydd penodol i ymweld â nhw. Cofiwch hefyd, yn ogystal â’r rhain, fod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli dau safle treftadaeth pwysig sydd ar agor i’r cyhoedd – Castell Henllys a Chastell Cairew.

Siambr Claddu Pentre Ifan
Fwy na thebyg mai siambr gladdu Pentre Ifan yw un o henebion enwocaf Cymru, ac mae wedi dod yn eicon ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r heneb yn dod o’r cyfnod Neolithig, adeg pan yr oedd pobl yn dechrau byw mewn cymunedau sefydlog ac yn dechrau ffermio’r tir. Hyd yn hyn, roedd pobl wedi bod yn byw mewn grwpiau bach, crwydrol ac wedi bod yn hela a chasglu bwydydd gwyllt. Er mwyn tyfu cnydau, roedd yn golygu bod yn rhaid i bobl fod mewn un lle trwy gydol y flwyddyn, a datblygwyd cysylltiadau newydd gyda’r tir. Adlewyrchir hyn yn y ffaith eu bod wedi adeiladu henebion parhaol fel Pentre Ifan.

Siambr Claddu Pentre Ifan
Siambr Claddu Pentre Ifan.

Nid yw’r hyn a welwn ni heddiw yn adlewyrchu’r ffordd y buasai Pentre Ifan wedi edrych. Fwy na thebyg y buasai’r strwythur a welwn ni heddiw wedi ei guddio’n gyfan gwbl, neu o leiaf yn rhannol, o dan dwmpath enfawr o bridd a cherrig. Fe fuasai’r cerrig a welwn ni heddiw wedi bod yn fynedfa i berfedd y siambr gladdu, ac fe fuasai wedi bod yn gwrt ar gyfer cynnal defodau a seremonïau.

Angle
Heddiw, mae pentref Angle yn teimlo fel ei fod ar ben pellaf y tir - teithiwch ymhellach ac fe fyddwch chi yn y môr! Ond yn ystod y cyfnod Canoloesol, fe fuasai Angle wedi bod yn borthladd ac yn ganolfan fasnachu ffyniannus a phwysig. Fe fuasai Dwyrain a Gorllewin Angle wedi darparu angorfeydd cysgodol i gychod o bob lliw a llun, ac yn ystod y cyfnod Canoloesol roedd yn haws cludo nwyddau a phobl ar y môr nag ar y tir.

Mae olion niferus ei orffennol Canoloesol wedi goroesi hwnt ac yma dros benrhyn Angle. Wrth i chi yrru tuag at y pentref, fe welwch chi linellau paralel, cul ffiniau’r caeau; dyma’r llain-gaeau Canoloesol a ymgorfforwyd i arferion ffermio diweddarach. Mae gan yr eglwys goeth darddiad Canoloesol hefyd, ac mae’r Tŷ Tŵr yn adeilad Canoloesol anarferol sy’n agored i’r cyhoedd. Mae’r Tŷ Tŵr yn adeilad sydd â statws uchel, ac fe fuasai wedi bod yn annedd amddiffynedig ar gyfer teulu bonedd pwysig.

Bae Gorllewin Angle
Bae Gorllewin Angle​.

Mewn cae gerllaw, mae’r colomendy, sydd hefyd yn Ganoloesol, ac, unwaith eto, mae’n arwydd fod rhywun ariannog wedi byw yma. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond Arglwyddi’r Maenorau ac offeiriaid y plwyf oedd yn cael adeiladu colomendai, ac roedden nhw’n arwydd o gyfoeth a statws!

Ym Mae Gorllewin Angle, efallai y gwelwch chi olion claddfeydd wedi eu leinio â cherrig, a elwir yn gistgladdiadau, yn erydu allan o’r clogwyni. Mewn cloddiadau archeolegol ar y safle hwn, gwelwyd bod y cloddiadau yn dod o’r 6ed a’r 7fed ganrif OC. Mae’r fynwent hon yn gynharach na gweddill y pentref, ac efallai ei bod yn cynrychioli’r anheddiad gwreiddiol cyn sefydlu’r pentref Canoloesol ariannog.

Foel Drygarn
Ar ben dwyreiniol cadwyn y Preseli yn y Parc Cenedlaethol, mae pen bryn trawiadol Foel Drygarn, golygfa y mae’n rhaid i chi ei gweld. Mae olion rhagfuriau carreg, banciau a ffosydd o’r Oes Efydd yn cylchu’r grib gan ychwanegu at y dirwedd gyfagos o glogwyni a chlegyr naturiol. Peidiwch ag anghofio dod â chamera!

Dominyddir yr ardal gan dri charn enfawr o’r Oes Efydd sydd wedi eu gwarchod yn dda, ac mae hyn yn wir dyst i’r parch yr oedd y Celtiaid yn ei ddangos at eu cyndeidiau marw, oherwydd nid oedd adeiladwyr caerau’r Oes Haearn wedi cyffwrdd â’r mannau claddu sanctaidd hyn, sy’n dod o gyfnod cyn yr Oes Haearn.

Foel Drygarn
​Foel Drygarn.

Gellir gweld llawer o lwyfannau o hyd heddiw, os nad yw’r grug yn rhy uchel. Rhennir y gaer yn dri chaeadle wedi eu hamddiffyn, gyda bylchau yn yr amddiffynfeydd sy’n nodi’r mynedfeydd gwreiddiol i’r gaer. Yn y gorffennol, nodwyd dros 220 o lwyfannau tai, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu cloddio.

Daethpwyd o hyd i nifer o ddarganfyddiadau diddorol ar y safle, gan gynnwys troellennau cogeiliau, crochenwaith a llestri cerrig, gleiniau gwydr a modrwyon jet o’r Oes Haearn a Rhufeinig. Gellir gweld y rhan fwyaf o’r darganfyddiadau hyn yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod.