I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Ynysoedd Sir Benfro » Ynys Dewi

Ynys Dewi

Mae’r ynys hon, sy’n olygfa ogoneddus, yn wynebu penrhyn Tyddewi, ar draws dyfroedd byrlymog Swnt Dewi, a fwy na thebyg mai dyma’r lle gorau i wylio morloi llwyd a llamhidyddion.

Eiddo i’r:
RSPB. Ffi i lanio onid ydych yn dangos cerdyn aelodaeth RSPB dilys.
Cyrraedd: Pasg tan fis Hydref, teithiau sy’n glanio o Borth Stinian, a hefyd teithiau cylch. Fe allwch ein helpu ni i wella anawsterau mynediad yn y lleoliad anghysbell ac annwyl hwn trwy deithio i Borthstinian ar y bws gwennol y Gwibiwr Celtaidd. Mae parcio ar gael yn wahanol leoliadau yn Nhyddewi, gan gynnwys Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.​
Cyfleusterau: Toiledau, lluniaeth, teithiau tywys y Parc Cenedlaethol.
Ardal y Parc: Gorllewin Cyfeirnod Grid:SM705240.

Edrych draw i Ynys Dewi o ben uchaf Carn Llidi.
Edrych draw i Ynys Dewi o ben uchaf Carn Llidi.

Mae enw Cymraeg yr ynys wedi cadw’r cysylltiad at Ddewi a Thyddewi, ond dywedir i’r enw Saesneg ar yr ynys, ‘Ramsey’, darddu o enw person yn yr iaith Norseg, sef “Hrafn”.
O ganlyniad i ddau begwn Carn Ysgubor a Charn Llundain, mae gan Ynys Dewi amlinelliad nodedig iawn. Roedd yn dirnod i bererinion cynnar a deithiai i’r ardal ar y môr, ar eu ffordd i Dyddewi. Roedd meudwyaid yn ceisio lloches yma, ac yn eu plith roedd Sant Stinian, cyfaill a chyffeswr Dewi. Roedd yna ddau gapel Cristnogol cynnar ar yr ynys, a ffynnon sanctaidd a oedd yn enwog am ei phwerau iachau.

Erbyn y 13eg ganrif, roedd Ynys Dewi’n eiddo i Esgobion Tyddewi, ac am dros 600 mlynedd ffermiwyd yr ynys, gyda graddau amrywiol o lwyddiant. Cynhyrchwyd menyn, caws a gwlân yma ac fe’u gwerthwyd ar y prif dir ac, mewn blynyddoedd diweddarach, tyfwyd ŷd a chnydau eraill yma. Y tro diwethaf i unrhyw un ffermio Ynys Dewi oedd diwedd y 1960au, ac mae bellach yn warchodfa natur sy’n eiddo i Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (yr RSPB).

Mae Ynys Dewi yn gadarnle i’r frân goesgoch sy’n bridio, aelod prin o deulu’r frân. Dyma’r unig safle yn Sir Benfro, hefyd, ble mae cornicyllod yn ceisio bridio. Caiff ŷd ei dyfu yn y caeau canolog i ddenu adar mudol sy’n bwyta hadau yn hwyr yn yr haf ac yn yr hydref. Mae yna glogwyn mawr ar gyfer adar y môr ar ochr orllewin yr ynys, a gellir gweld mulfrain gwynion yn plymio oddi arno i bysgota oddi ar y lan.

Morlo bach ar Ynys Dewi.
Morlo bach ar Ynys Dewi.

Ynys Dewi sydd â’r gytref fwyaf o forloi llwyd yn ne Prydain. Mae modd eu gweld o ddiwedd mis Awst hyd nes mis Hydref, pan ddaw’r morloi benywaidd i’r traethau bridio i eni eu rhai bach. Caiff dros 600 o forloi bach eu geni yma bob blwyddyn. Mae yna doreth o lamhidyddion harbwr yn y dyfroedd o amgylch Ynys Dewi, a gwelir dolffiniaid cyffredin, trwynbwl a llwyd yma bob blwyddyn.

Ar y tir, mae yna geirw coch, a gyflwynwyd i’r ynys yn ystod y cyfnod pan yr oedd yn cael ei ffermio, a llygod coch.

Mae yma blanhigion sy’n brin yn lleol ac yn genedlaethol. O ddechrau’r gwanwyn, ceir ysgeintiad o flodau o bob lliw a llun ar y clogwyni, ac ym mis Awst y grug porffor yw’r enghraifft orau o weundir morol ar ein hynysoedd oddi ar y lan.

I’r de o’r brif ynys, mae yna dair ynysig serth: Ynys Gwelltog, Cantwr a Beri. Mae’r rhain yn safleoedd bridio ar gyfer gwylanod cefnddu bach, ac yn y gwanwyn maen nhw’n frith o flodau’r serennyn glas golau.