I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Ynysoedd Sir Benfro » Ynys Farged

Ynys Farged

Ger Ynys Bŷr, saif Ynys Farged. Ar un adeg, roedd capel canoloesol o’r un enw ar yr ynys, ond fe’i trawsnewidiwyd yn dai ar gyfer y dynion a gloddiai am galchfaen ar yr ynys, yn oes Fictoria. Erbyn hyn, nid oes unrhyw un yn byw ar yr ynys, ond mae’n warchodfa natur fechan a physig.

St Margaret's IslandNid oes mynediad i’r cyhoedd.
Ardal y Parc:
De Cyfeirnod Grid SS120793

Ar yr ynys, mae yna gytrefu o heligogod sy’n nythu ar y clogwyni a gweilch y penwaig, hyd at 250 pâr o filidowcars a chyfuniad da o bob un o’r tri gwylan fawr: yr wylan gefnddu, yr wylan gefnddu fach a gwylan y penwaig. Ers sawl blwyddyn, mae mulfrain gwynion wedi bod yn cylchu’r ardal ac yn sefydlu eu tiriogaethau ar ochr ogledd-ddwyreiniol yr ynys, a allai ddod yn gytref i’r fulfrân wen yn y dyfodol.

Mae ambell bâr o balau yn bridio ar y llethrau sy’n wynebu Dinbych-y-pysgod, ond mae llygod mawr yn cwtogi ar y niferoedd o adar llai sy’n nythu ar y tir. Mae llystyfiant yr ynys yn gyfoethog ac yn ffrwythlon, gyda betys mor trwchus, amranwen y môr a glaswelltau bras uchel.

Cloddiwyd am galchfaen ar yr ynys hyd nes 1851. Mae yna olion bythynnod, cae muriog, siediau storio a ffynnon sydd â dŵr melys yn llifo o hyd. Mae un chwarel, gyda chymorth ambell storm yn ystod gaeaf 2001/02, bron â hollti’r ynys yn ddwy.