Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Oriel y Parc » Amdanom ni » Hygyrchedd
Os y byddwch yn cyrraedd Oriel y Parc mewn car gallwch parcio yn y maes parcio talu ac arddangos gyferbyn ag Oriel y Parc ar Ffordd Caerfai. Mae nifer o fannau barcio anabl ar gael ar yr ochr dde wrth ichi yrru i mewn i’r maes parcio.
Unwaith eich bod wedi barcio, croeswch Ffordd Caerfai a ewch o dan y bwa (llethr bychan goriwaered) i’r clos. Mae’r pellter o’r maes parcio i’r ganolfan tua 100 metr. Mae’r llwybr a’r clos yn wastad.
Gallwch ddod i mewn i adeilad Oriel y Parc o’r clos, neu fynd yn eich blaen trwy’r coed i’r Stryd Fawr, Tyddewi. Mae’n cymryd tua 5-10 munud i gerdded i ganol Tyddewi o Oriel y Parc ar hyd dir gwastad. Mae rhai o’r palmentydd yn gul a dim ond ar un ochr i’r ffordd.
Mae sgwter symudedd ar gael i’w benthyca yn Oriel y Parc.
Mae mynedfa Oriel y Parc trwy ddrysau awtomatig llydan. Mae holl wasanaethau Oriel y Parc ar un lefel ar wahân i’r Oriel, sydd â mynediad lifft.
Mae cadair olwyn ar gael i’w benthyca yn Oriel y Parc. Mae sgwter symudedd hefyd ar gael, argymellwn eich bod chi’n bwcio hwn o flaen llaw drwy ffonio 01437 720392.
Mae dau fan ymholi uchder cadair olwyn ar y brif ddesg.
Mae toiledau hyrgyrch ac unedau newid babanod yn y maes parcio ac hefyd yn y caffi a chanolfan ymwelwyr yn Oriel y Parc.
Mae dolen glywed ar gael wrth y ddesg.