Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymgynghori ynghylch drafft Cynllun Corfforaethol
Ffurflenni archebu ar gyfer yr Ŵyl Hynod Wyllt nawr ar gael
Helpwch i atal problemau ym Mryniau'r Preseli yn ystod yr eira
Llusernau i oleuo degfed pen-blwydd Gorymdaith y Ddraig
Cyfle i ddweud eich dweud am gam diweddaraf gwaith paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd
Hafan » Mwynhau » Cerdded yn y Parc » Mynediad i Bawb
Mae yna ystod o lwybrau a chyrchfannau yn y Parc Cenedlaethol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae ein Canllaw Llwybrau i Bawb yn hyrwyddo 15 llwybr ar draws y Parc Cenedlaethol. Cynllunnir y llwybrau teithio hyn i ddarparu gwybodaeth ddigonol er mwyn i bobol benderfynu drostyn nhw eu hunain pa lwybr sy’n addas, yn dibynnu ar eu hanghenion a galluoedd personol.
Bwriedir y teithiau cerdded hyn ar gyfer pobol sy’n defnyddio sgwteri symudedd, cadair olwyn llaw neu bŵer ac i bobol sydd â gallu cerdded cyfyngedig. Gellir mwynhau’r teithiau cerdded felly gan grwpiau o deuluoedd gyda phlant bach a chadeiriau gwthio yn ogystal â phobol â phroblemau symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Yn gyffredinol, gall pobol ddisgwyl llwybrau gweddol wastad heb raddiannau serth na grisiau a gwybodaeth sy’n berthnasol i gyflwr arwynebedd y llwybrau.
Yn ychwanegol, mae ein Llwybrau i Gadeiriau Olwyn yn cynnig gwybodaeth am 21 llwybr sy’n cael eu categoreiddio fel rhai addas i gadeiriau olwyn yn ein dewis o deithiau cerdded a hyrwyddir.
Mae Traethau Mynediad Hwylus yn darparu rhestr o leoliadau a gwybodaeth fanwl am safon hygyrchedd 18 traeth yn y Parc Cenedlaethol. Mae gan rai o’r traethau Gadeiriau Olwyn y Traeth sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer eu hurio, sy’n addas i’w defnyddio ar draethau tywod.
Mae Golygfannau â Mynediad Hwylus yn rhestru 36 lleoliad yn y Parc Cenedlaethol y gellir eu cyrraedd i gyd mewn car a chael arosfan neu fan parcio i fwynhau golygfeydd ysblennydd arfordir a chefn gwlad y Parc Cenedlaethol.
Darperir Sgwteri Symudedd hefyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn nifer o atyniadau a chanolfannau i ymwelwyr.