Hafan » Amdanom Ni » Newyddion
Yn ddiweddar, cafodd cyn-feddyg teulu sydd wedi bod yn gwirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ers dros 50 mlynedd ei gydnabod drwy gyflwyno gwobr genedlaethol iddo.
Derbyniodd Dr George Middleton, a ddechreuodd wirfoddoli yn 1966, Wobr Blatinwm am Gyflawniad Oes gan National Parks UK, sef y wobr a roddir i’r unigolyn sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol i Barc Cenedlaethol neu’r Ymgyrch Parciau Cenedlaethol.
Y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cyflwyno Gwobr Blatinwm National Parks UK i Dr George Middleton.
Cyflwynwyd y wobr i Dr Middleton gan y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yng nghwmni nifer o staff a gwirfoddolwyr Awdurdod y Parc sydd wedi gweithio ag ef dros y blynyddoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Harries, a dderbyniodd y wobr ar ran Dr Middleton yng Nghynhadledd Parciau Cenedlaethol y DU eleni ym Mharc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Swydd Efrog: “Yn ystod ei 53 blynedd o wasanaeth, mae wedi bod yn rhan o weithgareddau di-ri i wneud Arfordir Penfro yn fwy hygyrch i ymwelwyr, twristiaid a phobl leol a sicrhau eu bod yn gallu ei fwynhau.
“Fel meddyg teulu yn Nhyddewi, roedd yn adnabyddus am annog cerdded yn y Parc Cenedlaethol yn hytrach na rhoi meddyginiaeth i’w gleifion oherwydd manteision hynny i’w hiechyd a’u lles.
“Mae George yn dal yn wirfoddolwr gweithgar yn ei 90au, ac mae’n ymgorffori ysbryd gwirfoddoli. Mae Awdurdod y Parc yn ffodus iawn o gael cymaint o wirfoddolwyr sy’n dangos y lefel hon o ymroddiad er mwyn helpu i wneud y Parc Cenedlaethol yn lle gwell i bawb.”
Ei dasg gyntaf fel gwirfoddolwr oedd helpu gyda’r ymdrech i greu Llwybr Arfordir Sir Benfro, ac mae ei gyflawniadau eraill yn cynnwys ysgrifennu taflenni gwybodaeth cyntaf y Parc Cenedlaethol i’r cyhoedd.
Dywedodd Dr Middleton, a oedd yn dymuno rhannu'r gydnabyddiaeth â’i gyd-wirfoddolwyr: “Un o’r breintiau mwyaf oedd mynd i leoedd na fyddwn i wedi mynd iddyn nhw fel arall. Hoffwn gymeradwyo gwasanaeth gwirfoddoli’r Parc Cenedlaethol, lle rwyf wedi mwynhau llawer iawn o ddiwrnodau hapus. Rydw i wedi gwneud llawer o ymarfer corff, rydw i’n gwybod sut mae plastro wal a chodi clawdd Sir Benfro, ac yn bennaf yn gwybod sut mae gwneud twll yn y ddaear!
“Mae’n braf gwneud rhywbeth gwerth chweil am ddim. Rydych chi’n darllen am bêl-droedwyr sy’n ennill miliynau o bunnau’r diwrnod, ac mae’n debyg eu bod yn cael pleser o hynny, ond rydw i’n cael yr un faint o bleser o drwsio clawdd neu eistedd yn cael paned a sgwrsio â phobl. Mae wedi bod y bleser o’m rhan i.”
I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/gwirfoddoli.
Gyhoeddi 21/11/2019