Hafan » Byw Yn » Cynllunio » Cyngor ar Gynllunio » Cyn Cyflwyno Cais » Cyngor Cyn Cyflwyno Cais
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cynllunio effeithlon ac effeithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer er mwyn sicrhau bod modd cyflawni datblygiadau o safon.
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, mae’r Awdurdod yn croesawu ac yn annog trafodaethau cynnar cyn i ddarpar ddatblygwr neu dirfeddiannwr gyflwyno cais cynllunio ffurfiol i’w ystyried. Mae’r Awdurdod o’r farn y bydd hyn yn cynorthwyo’r ymgeiswyr o ran y wybodaeth sy’n ofynnol i gefnogi cais ac y bydd hefyd yn rhoi barn swyddogion ar y tebygolrwydd o lwyddiant.
Fel rhan o adolygiadau parhaus o’r gwasanaeth a gynigiwyd yn 2015, aeth yr Awdurdod ati i ddiweddaru’r cynnig cyn ymgeisio i gynnwys cyflwyno Cymhorthfa Cynllunio i gynorthwyo gydag ymholiadau cychwynnol. Mae’r gymhorthfa wedi bod yn ddefnyddiol drwy alluogi’r cyhoedd i siarad â Chynllunydd cyn ymgeisio neu cyn cyflwyno cais ffurfiol ac mae’n fodd i roi cyngor ar y broses dan sylw.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno gofyniad i bob awdurdod cynllunio ddarparu gwasanaeth cyn ymgeisio statudol ac i ffi gael ei thalu. Mae manylion llawn y Gwasanaeth Cyn Ymgeisio statudol newydd a gynigir ar gael drwy lawrlwytho ein Canllawiau Cynllunio Cyn Ymgeisio (Rheoli Datblygu).
Mae modd cael cyngor Cyn Ymgeisio drwy lenwi ‘Ffurflen Cyn Ymgeisio’ y gallwch ei llenwi ar gyfrifiadur a’i hanfon dros e-bost at yr Awdurdod, neu â llaw a’i phostio/sganio a’i hanfon dros e-bost. Dylid defnyddio'r ffurflen ddiwygiedig (Mawrth 2016) ar gyfer pob ymholiad cyn gwneud cais er mwyn cael barn anffurfiol gan swyddog ar ddatblygiad arfaethedig.
Bydd yr Awdurdod yn ceisio darparu ymateb ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod neu o fewn amserlen arall y cytunir arni.
Ffurflen Cyn Ymgeisio (Fersiwn ar y We)
Ffurflen Cyn Ymgeisio (Fersiwn Print)
Ffioedd Cyn Ymgeisio
Pa gyngor a gaiff ei roi?
Fel gofyniad sylfaenol, dylai ymgeiswyr ar gyfer datblygiadau deiliaid tai ddisgwyl cael y wybodaeth ganlynol yn eu hymateb ysgrifenedig: