I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Gofalu Am » Rheoli Tir er budd Cadwraeth » Cysylltiadau Naturiol

Logo Cysylltiadau Naturiol

Cychwynnwyd cynllun peilot o’r enw Cysylltiadau Naturiol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros 18 mis yn 2017 a 2018, er mwyn gweithio gyda busnesau twristiaeth a oedd yn berchen ar dir yn y Parc Cenedlaethol.

Roedd y prosiect , a derbyniwyd cyllid gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwyn, edrych ar y cyfleoedd ar gyfer gweithio gyda’r diwydiant twristiaeth i wella eu tir ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â hyrwyddo’r cyfoeth rhyfeddol o brofiadau bywyd gwyllt a gynigir gan ein Parc Cenedlaethol.

Cymerwyd rhan yn y prosiect gan saith o fusnesau yn cynnwys: Maes Gwersylla Brandy Brook, Parc Gwyliau Plas Llwyngwair, Hostel Ieuenctid Maenorbŷr, May Cottage, Gwesty Penrhiw, Castell Picton a Fferm Tyriet (Bragdy Bluestone).

Bu ecolegydd yn ymweld â phob safle i gynnal arolwg bywyd gwyllt o’u tir yn ogystal â gwneud argymhellion ynglŷn â sut i wella eu tir ar gyfer bywyd gwyllt. Derbyniodd pob busnes eu hadroddiad eu hunain ar y bywyd gwyllt ar eu heiddo ynghyd â gwybodaeth ynglŷn â lleoedd arbennig a phrofiadau bywyd gwyllt yn yr ardal leol ar gyfer eu defnydd eu hunain a hefyd er mwyn eu rhannu gyda’u hymwelwyr.

Buom yn gweithio gyda busnesau i ddod o hyd i brosiect bychan wedi’i anelu at wella neu ddehongli’r amrywiaeth o fywyd gwyllt ar eu tir. Wedyn, roedd y prosiectau hyn wedi cael eu sefydlu gyda chyllideb fechan a chefnogaeth ymarferol gan Barcmyn y Parc Cenedlaethol a’r Prosiect Llwybrau.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen Adroddiad Terfynol Prosiect Cysylltiadau Naturiol.

Castell Picton
Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, trawsnewidiodd y garddwyr yng Nghastell Picton ran o lawntiau’r Castell o laswelltir amwynder wedi’i dorri’n isel i ddôl a oedd yn gyfoethog mewn blodau gwyllt drwy reoli dolydd gwair mewn modd traddodiadol. Roedden nhw’n cael eu gwobrwyo y llynedd gydag ymddangosiad eu tegeirian-y-gors deheuol cyntaf.

Tynnodd yr arolwg ecolegol sylw at bwysigrwydd y ddôl hon fel cynefin prin a dirywiol yn Sir Benfro. Yr her i Gastell Picton oedd integreiddio’r ddôl hon i brofiad yr ymwelwyr o’r Castell a’r gerddi.  Tynnu sylw yn arbennig at y ddôl a helpu yn ogystal i egluro i ymwelwyr pam mae’r glaswellt yn cael ei adael i dyfu’n hir.

Picton Castle meadow interpretation panel.
Panel dehongli ar gyfer dôl Castell Picton.

Rhoddodd Cysylltiadau Naturiol gymorth ariannol i ddylunio a phrynu panel dehongli er mwyn tynnu sylw’r ymwelwyr at y cynefin arbennig a phrin hwn.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen​ yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Castell Picton.

Bragdy Bluestone a Fferm Tyriet
Er bod dyfrgwn wedi ailymddangos yn dda iawn yn ein hafonydd, maen nhw angen llystyfiant trwchus a thomen boncyffion gerllaw er mwyn eu defnyddio fel mannau gorffwys a bridio. Mae’r mathau hyn o leoedd yn parhau i fod yn eithaf anodd dod o hyd iddyn nhw yn y dirwedd sy’n cael ei ffermio, ac felly gwnaethom gymryd y cyfle i osod gwâl newydd ar gyfer dyfrgwn wrth ochr Afon Clydach, llednant Afon Nyfer.

Bu Wardeniaid Gwirfoddol yn gosod gwâl barod wedi’i gwneud o blastig wedi’i ailgylchu a buon nhw’n bondocio rhai o’r coed cyll er mwyn ei chuddio.

Installing on Otter Holt at Tyriet
Gosod Gwâl ar gyfer Dyfrgwn yn Tyriet.

Gan fod Tyriet wedi’i leoli mewn ardal yn Ngogledd Sir Benfro lle gwelir nifer fawr o bathewod, roedd yn gyfle da i osod 30 o flychau pathewod newydd yn y coetir a’r perthi o gwmpas y fferm. Treuliodd Wardeniaid Gwirfoddol hanner diwrnod yn gwneud y blychau ac yna hanner diwrnod yn eu gosod nhw ar y fferm.

Bydd gwirfoddolwyr yn archwilio’r rhain ddwywaith y flwyddyn er mwyn gweld a oes pathewod ynddyn nhw; ac os ydyn nhw’n llwyddiannus, gellir ychwanegu’r prosiect at Raglen Rhwydwaith Monitro Pathewod Genedlaethol (RhRhMP).

Putting up dormouse boxes at Tyriet Farm
Gosod blychau pathewod ar Fferm Tyriet.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen​ yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Fferm Tyriet.

Maes Gwersylla Brandy Brook
Un o’r nodweddion naturiol allweddol ym maes gwersylla Brandy Brook yw’r digonedd o goed aeddfed a hynod. Mae’r coed hyn i gyd o oed tebyg ac roedd perchennog y gwersyll yn awyddus i blannu coed a fyddai’n cysgodi’r genhedlaeth nesaf o wersyllwyr. Nid yw coed mewn caeau mor gyffredin ag y roedden nhw arfer bod, oherwydd eu bod yn llai cydnaws ag amaethu dwys modern; mae coed sydd newydd gael eu plannu mewn caeau yn brin iawn yn wir, ac felly’r oedd hyn yn gyfle gwych.

Talodd y prosiect am saith o goed safonol (dwy neu dair oed) ynghyd â rhwystrau i ddarparu diogelwch rhag defaid pan mae’r caeau yn cael eu pori yn ystod y gaeaf. Plannwyd y coed gan Barcmon Ardal y Gogledd Orllewin, Ian Meopham a gwirfoddolwyr o Ysgol Portfield.

Tree planting with Portfield School
Plannu coed gydag Ysgol Portfield.

Plannwyd rhai o’r perthi ar y gwersyll oddeutu 10-15 mlynedd yn ôl, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol ar gyfer eu plygu. Mae plygu perthi yn ffordd draddodiadol o reoli perthi sy’n anelu at wneud perthi yn dew yn y gwaelod, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel rhag da byw – sydd hefyd, gyda llaw, yn eu gwneud nhw’n well ar gyfer bywyd gwyllt. Gwnaethom ddewis perth a oedd ar hyd llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg drwy’r maes gwersylla er mwyn i Tom Iggleden a’r gwirfoddolwyr o brosiect Llwybrau ymdrin â’r berth.

Roedd y grŵp yn ddiolchgar i arbenigwr plygu perthi lleol, Gareth Evans, a roddodd o’i amser i ddangos arddull newydd o blygu perthi er mwyn ychwanegu at eu doniau.  Mae sawl peth arall angen eu rheoli yn y maes gwersylla a gobeithiwn ymdrin â’r rhain yn y dyfodol.

Hedgelaying at Brandy Brook
Plygu perthi yn Brandy Brook.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen​ yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Maes Gwersylla Brandy Brook.

Parc Gwyliau ​Maenordy Llwyngwair
Derbyniodd rheolwr y maes gwersylla hyfforddiant i’w galluogi hi i gynnal sesiynau chwilota mewn afonydd a phyllau er mwyn dangos y cynefinoedd gwlyptir yn y maes gwersylla i’r ymwelwyr. Roedd y prosiect yn helpu drwy brynu’r cyfarpar angenrheidiol i’w galluogi hi i gynnig tri sesiwn drwy’r haf a oedd yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Hysbysebwyd y sesiynau ar Facebook ac roedden nhw yn llawn bron yn syth.

Ar ochr arall i’r afon, ceir dôl ar y maes gwersylla sy’n cael ei defnyddio ar gyfer adloniant anffurfiol gan y gwersyllwyr. Mae gan yr ardal hon botensial anferth ar gyfer datblygu bywyd gwyllt ac adloniant, yn ogystal â hyrwyddo addysg amgylcheddol ynglŷn â chynefinoedd glaswelltir.

Un o’r prif broblemau ar y ddôl hon yw presenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol (RhEG), sef y ffromlys chwarennog a chlymog Japan. Mae’r maes gwersylla wedi bod yn rheoli’r ffromlys chwarennog drwy dorri’r ddôl yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae’n parhau i oroesi mewn lleoedd sy’n anodd cael atyn nhw yn y coetir ac ar hyd glannau’r afon.

Pond dipping at Llwyngwair.
Chwilota mewn pylloedd yn Llwyngwair.

Talodd y prosiect am drin y clymog Japan a bu Carol Owen, Parcmon Ardal y Gogledd a’i grŵp o wirfoddolwyr o’r Cwrs Paratoi ar gyfer y Fyddin o Goleg Sir Benfro, yn rhoi ychydig o help iddyn nhw gyda’r dasg o reoli’r ffromlys.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen​ yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Parc Gwyliau ​Maenordy Llwyngwair.

Hostel Ieuenctid Maenorbŷr
Gwnaethom roi cefnogaeth i Hostel Ieuenctid Maenorbŷr i osod 20 o flychau adar yn y llain gysgodol o gwmpas eu safle. Plannwyd y llain gysgodol oddeutu 20 mlynedd yn ôl gyda chymorth gan wirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol. Mae’r coed wedi dod ymlaen yn eithaf da, o ystyried y lleoliad agored, ond maen nhw’n parhau yn ifanc iawn ac nid oes ganddyn nhw’r nodweddion fel tyllau pydredd ar gyfer adar sy’n nythu.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen​ yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Hostel Ieuenctid Maenorbŷr.

Gwesty Penrhiw
Yng Ngwesty Penrhiw yn Nhyddewi, gwnaethom ddarparu cyllid ar gyfer prynu hadau cribellau melyn a gafwyd yn lleol er mwyn gwella’r ddôl wair y maen nhw’n ei rheoli gerllaw’r gwesty. Er bod y ddôl wedi gwneud cynnydd da iawn ac eisoes yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion, mae yno lawer o laswellt o’i gymharu â blodau.

Mae cribellau melyn yn barasitig ar laswellt, a bydd yn helpu i leihau eu grym a gwella’r nifer o flodau gwyllt sydd yn y ddôl. Bydd y ddôl ar agor i‘r cyhoedd fel rhan o Lwybr Peillwyr Penrhyn Tyddewi.



Hau cribell felen.

Mae hen frochfa moch daear ym Mhenrhiw, a gofnodwyd yn y lle cyntaf yn y 1700au.  Mae annog mynediad i weld moch daear yn dod â’r perygl o darfu, ac felly prynwyd camera llwybr i alluogi staff y tir i geisio cael lluniau o’r moch daear a ellir eu rhannu gyda gwesteion ac ar eu Tudalen Facebook.


Moch daear ar Gamera Bywyd Gwyllt Penrhiw.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen​ yr Adroddiad Bywyd Gwyllt Cysylltiadau Naturiol ar gyfer Gwesty Penrhiw.