I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Canrif o wasanaeth i bedwar aelod o staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Yn ddiweddar, cafodd pedwar aelod o staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro blaciau arbennig bob un i ddathlu chwarter canrif o wasanaeth i’r sefydliad.

Rhyngddynt, mae Dyfan Evans, Sarah Hirst, Yvonne Jones a Geoff Severn, wedi treulio dros 100 mlynedd yn gweithio i’r Awdurdod, a chyflwynwyd y gwobrau am wasanaeth hir iddynt ar ddiwedd 2017.

 O’r chwith i’r dde Geoff Severn; Sarah Hirst; Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc; Dyfan Evans; Yvonne Jones a Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc.
O’r chwith i’r dde Geoff Severn; Sarah Hirst; Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc; Dyfan Evans; Yvonne Jones a Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae cael cyfle i gydnabod aelodau o staff am 25 mlynedd o wasanaeth yn brin, felly mae gallu llongyfarch pedwar ar yr un pryd yn eithaf anhygoel.

“Mae’r Awdurdod yn ffodus o gael aelodau o staff mor ymroddgar ac rwyf mor falch fy mod wedi gallu cydnabod ymrwymiad y pedwar unigolyn yma, sy'n dod â phrofiad mor werthfawr i’w swyddi.”

Mae Geoff a Dyfan yn gweithio gyda Thîm Wardeiniaid y Gogledd, mae Yvonne yn rhan o’r Tîm Cyllid, ac mae Sarah yn aelod o Dîm Cyfeiriad y Parc.

I gael gwybodaeth am weithio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac i weld y swyddi gwag diweddaraf ewch i www.arfordirpenfro.cymru/swyddi.

 

Gyhoeddi 02/02/2018



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion