I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Dysgu Am » Gwyddoniaeth » Cynefinoedd » Cynefinoedd Arfordirol

Cynefinoedd Arfordirol

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhyw 20% o arfordir Cymru. Mewn amgylchedd arfordirol, fe welwch chi unrhyw gynefin sy'n gysylltiedig â'r môr neu y mae'r môr yn dylanwadu arno. Mae'r môr yn dylanwadu ar yr holl gynefinoedd yn y Parc Cenedlaethol.

Mae'r llanw, y gwynt a'r tonnau yn dylanwadu ar gynefinoedd fel traethau caregog a thwyni tywod. Mae'n rhaid i'r rhywogaethau sy'n byw yma allu goroesi'r amodau hyn a rhaid eu bod yn gallu dioddef y dŵr hallt hefyd.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld gwybodaeth am y gwahanol fathau o gynefinoedd arfordirol:



Godiroedd​

Pam mae godiroedd mor arbennig?​
Mae tirweddau arfordirol ymhlith y tirweddau a drysorir fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae llain arfordirol y Parc Cenedlaethol yn gorchuddio tua 4,400 hectar o arwynebedd y tir.

Mae'n cynnwys dau brif fath o gynefin: glaswelltir arforol a gweundir arfordirol. Mae'n llain hir, gul o dir, sy'n ymestyn am bron i 260km.

Mae lled y llain arfordirol yn amrywio o ychydig o fetrau i lwyfandiroedd helaeth a phentiroedd. Mae'n cyferbynnu'n gryf gydag ardaloedd mewnol y sir sy'n cael eu ffermio'n ddwys. Dyma brif atyniad y Parc Cenedlaethol i ymwelwyr oherwydd dyma'r tir sy'n amgylchynu Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy'n Lwybr Cenedlaethol.

Sut mae'r cynefin dan fygythiad?
Yn y 1980au, cydnabuwyd bod y llain arfordirol yn dechrau cael ei ddominyddu gan rywogaethau o brysg fel eithin, rhedyn a mieri. Mae'r rhywogaethau hyn wedi newid y dirwedd o fod yn glytwaith o gynefinoedd i fod yn ehangder undonog gyda llai o fioamrywiaeth. Gwelwyd y trawsnewidiad hwn o ganlyniad i'r newidiadau mewn ffermio ers y 1950au.

Mae technegau ffermio modern wedi 'gwella'r' tir neu wedi ei esgeuluso. Arweiniodd y ddau newid hyn at ddirywiad yn y dulliau rheoli traddodiadol ar y godiroedd.

Sut mae'r godiroedd yn cael eu gwarchod a'u rheoli?
Rydyn ni'n anelu at greu mosaig o gynefinoedd sy'n cynnal pob math o rywogaethau ac yn cynyddu bioamrywiaeth arforol. Er enghraifft, glaswellt byr i'r Frân Goesgoch, prysg i'r adar, llystyfiant hir i'r mamaliaid bach a'r ffiniau rhyngddynt i'r anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Yr hen ddull o ffermio'r mathau hyn o ardaloedd oedd eu defnyddio nhw fel tir pori, ac fe fyddai'r ffermwr yn cael gwared ar yr eithin a'r prysg gan ddefnyddio tân neu trwy eu torri, i gadw'r ardal yn agored.

Ynysoedd​

Mae yna chwe phrif ynys oddi ar arfordir Sir Benfro, pob un ohonynt yn y Parc Cenedlaethol. Mae pobl wedi bod yn byw ar bump o'r ynysoedd hyn ar ryw adeg yn eu hanes.

Ynys Sgomer o'r dir mawr
Ynys Sgomer o'r tir mawr.

Yn y gorffennol, defnyddiwyd pob un ohonynt, heblaw am Gwales, at ddefnydd amaethyddol. Cynhaliaeth oedd y ffermio yn bennaf, ac fe fu’r bobl a oedd yn byw yn y mannau anghysbell hyn yn ecsbloetio adar y môr a ymgartrefai yma. Ffermiwyd cwningod ar yr ynysoedd hefyd, a gellir gweld ôl hyn ar Sgomer a Sgogwm heddiw.

Gallwch ddysgu mwy am yr ynysoedd hyn yn yr adran Lleoedd i Ymweld.

Glannau Creigiog

Pam mae traethau caregog mor arbennig?
Fwy na thebyg mai traethau caregog yw'r cynefin sy'n cael y mwyaf o ymwelwyr yn y Parc Cenedlaethol oherwydd maen nhw'n rhan o'r traethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymweld â nhw. Maen nhw'n cynnwys y rhan o'r traeth rhwng y tir a'r môr ble gellir gweld pyllau glan môr pan fydd y llanw'n isel. Os ydych chi wedi bod yn busnesa mewn pwll glan môr yna rydych chi wedi bod ar draeth caregog.

Pyllau glan môr ar draeth Niwgwl.
Pyllau glan môr ar draeth Niwgwl.​

 Nid oes llawer o lygredd a tharfu ar ein traethau ni, ac felly mae'r organebau sy'n byw yma yn rhai amrywiol a rhyfeddol. Mae llawer o'r traethau hyn yn agored iawn i symudiadau'r tonnau oherwydd maen nhw'n wynebu'r gorllewin neu'r de-orllewin, sef prif gyfeiriad y gwynt. O ganlyniad, maen nhw'n amrywiol iawn.

 Mae llawer o'r organebau sydd i'w gweld yma yn rhai unigryw. Awgrymwyd bod yr amrywiaeth o greaduriaid o lanw isel i lanw uchel ar draethau Sir Benfro yr un peth â'r amrywiaeth o'r cyhydedd i begwn y gogledd!

Nodweddion y traeth caregog
Mae'r organebau ar frig y traeth yn cael llawer llai o ddŵr na'r rheiny ar y gwaelod oherwydd y ffordd y mae'r llanw'n codi ac yn disgyn. Mae'r graddau y mae'n agored i'r aer yn rhoi patrwm ailadroddus o gylchfeydd sy'n gyffredin i bob traeth:

Cylchfa trochion – Y gylchfa sy'n uwch na'r llanw uchel. Mae'n cael ei throchi gan y môr ond nid yw'n cael ei gorchuddio. Mae'n le sych, hallt ble mae cennau oren, du a llwyd yn goroesi. Fe all planhigion sydd wedi addasu'n arbennig hefyd, fel clustog Fair a'r gludlys arfor, fyw yma. Gelwir y planhigion hyn yn 'haloffytau'.

Cylchfa uchaf – Mae'r gylchfa hon yn cael ei gorchuddio o dan y môr rhwng tua 1% a 20% o'r amser. Mae'n nodweddiadol oherwydd y gwymon gwyrdd llachar.

Traeth canol - Dyma ardal sy'n cael ei gorchuddio gan y môr rhwng 20% ac 80% o'r amser. Mae'n edrych yn frown oherwydd y rhywogaethau o wymon brown, sef gwymon codog mân a gwymon troellog. Mae'n troi'n llwyd wrth i chi fynd yn is i lawr, wrth i chi weld bod y creigiau wedi eu cramennu â gwyrain (barnacles), llygaid meheryn a gwichiaid moch.

Traeth Isaf - Yr ardal sydd wedi'i gorchuddio rhwng 80% a 99% o'r amser. Mae'r ardal hon yn edrych yn goch oherwydd y gwymon coch fel delysg a chatanela. Mewn rhai pyllau gall fod hyd at 11 rhywogaeth wahanol o wymon coch.

Rhaid bod yr organebau sy'n byw yn y lle hwn, sy'n newid drwy'r amser, yn gallu goroesi'r tonnau a'r potensial o fod yn sych ddwywaith y dydd. Mae addasiadau ar gyfer symudiadau'r tonnau yn gallu cynnwys gludafaelion cryf i'r graig, fel y gwelir ar wymon, a chramennau fel y gwelir ar wyrain a sbyngau. Mae gan lygaid meheryn siâp côn er mwyn gwrthsefyll grym y tonnau. Mae pysgod cregyn eraill yn glynu wrth y graig gyda symudiad sugno cryf iawn. Mae creaduriaid eraill fel crancod a sêr môr yn cuddio o dan y creigiau i gadw allan o'r ymchwydd.

Er mwyn goroesi'r sychder, fe all anifeiliaid guddio yn eu cregyn amddiffynnol. Mae gwymon yn wydn ac fel rwber, ac felly'n gallu goroesi rhywfaint o sychu. Pan fydd y llanw'n isel, gadewir pyllau o ddŵr mewn pantiau a holltiadau yn y graig. Mae'r pyllau glan môr hyn yn faeau da ar gyfer creaduriaid sydd wedi eu dal gan ddisgyniad y llanw. Yma, efallai y gwelwch chi grancod yn cuddio o dan y gwymon, neu hyd yn oed pysgod neu gorgimwch yn nofio ac yn pori ar yr algâu. Mae anemoniau'r môr fel y gem a'r beadlet hefyd yn hoffi bod mewn pyllau glan môr fel y gallan nhw fwydo rhwng dŵr isel ac uchel. Os ydyn nhw'n cael eu dadorchuddio mae eu cyrff yn cael eu hamddiffyn mewn pelen fel jeli.

Peryglon i'r traeth caregog
Nid oes angen unrhyw reolaeth benodol ar greaduriaid traethau caregog, i'w gwarchod, ond maen nhw'n gallu bod mewn perygl os yw pobl yn mynd â chreaduriaid neu blanhigion i ffwrdd neu'n eu herydu wrth gerdded. Maen nhw'n sensitif iawn i lygredd fel cemegau amaethyddol neu ollyngiadau olew o gychod pleser a thanciau olew.

Fwy na thebyg mai'r perygl mwyaf yw newid yn nhymheredd y môr, oherwydd mae cynnydd yn nhymheredd y môr yn cynyddu blymau algaidd, gan ostwng y lefelau ocsigen a gostwng cyfradd goroesi llawer o'r rhywogaethau a welir ar ein traethau. Os bydd cynhesu byd-eang yn parhau yna fe fydd bioamrywiaeth ein traethau caregog yn newid ac fe allai leihau.

Nid oes llawer o lygredd a tharfu ar ein traethau ni, ac felly mae'r organebau sy'n byw yma yn rhai amrywiol a rhyfeddol. Mae llawer o'r traethau hyn yn agored iawn i symudiadau'r tonnau oherwydd maen nhw'n wynebu'r gorllewin neu'r de-orllewin, sef prif gyfeiriad y gwynt. O ganlyniad, maen nhw'n amrywiol iawn.

Mae llawer o'r organebau sydd i'w gweld yma yn rhai unigryw. Awgrymwyd bod yr amrywiaeth o greaduriaid o lanw isel i lanw uchel ar draethau Sir Benfro yr un peth â'r amrywiaeth o'r cyhydedd i begwn y gogledd!

Nodweddion y traeth caregog
Mae'r organebau ar frig y traeth yn cael llawer llai o ddŵr na'r rheiny ar y gwaelod oherwydd y ffordd y mae'r llanw'n codi ac yn disgyn. Mae'r graddau y mae'n agored i'r aer yn rhoi patrwm ailadroddus o gylchfeydd sy'n gyffredin i bob traeth:

Cylchfa trochion – Y gylchfa sy'n uwch na'r llanw uchel. Mae'n cael ei throchi gan y môr ond nid yw'n cael ei gorchuddio. Mae'n le sych, hallt ble mae cennau oren, du a llwyd yn goroesi. Fe all planhigion sydd wedi addasu'n arbennig hefyd, fel clustog Fair a'r gludlys arfor, fyw yma. Gelwir y planhigion hyn yn 'haloffytau'.
Cylchfa uchaf – Mae'r gylchfa hon yn cael ei gorchuddio o dan y môr rhwng tua 1% a 20% o'r amser. Mae'n nodweddiadol oherwydd y gwymon gwyrdd llachar.
Traeth canol - Dyma ardal sy'n cael ei gorchuddio gan y môr rhwng 20% ac 80% o'r amser. Mae'n edrych yn frown oherwydd y rhywogaethau o wymon brown, sef gwymon codog mân a gwymon troellog. Mae'n troi'n llwyd wrth i chi fynd yn is i lawr, wrth i chi weld bod y creigiau wedi eu cramennu â gwyrain (barnacles), llygaid meheryn a gwichiaid moch.
Traeth isaf - Yr ardal sydd wedi'i gorchuddio rhwng 80% a 99% o'r amser. Mae'r ardal hon yn edrych yn goch oherwydd y gwymon coch fel delysg a chatanela. Mewn rhai pyllau gall fod hyd at 11 rhywogaeth wahanol o wymon coch.

Rhaid bod yr organebau sy'n byw yn y lle hwn, sy'n newid drwy'r amser, yn gallu goroesi'r tonnau a'r potensial o fod yn sych ddwywaith y dydd. Mae addasiadau ar gyfer symudiadau'r tonnau yn gallu cynnwys gludafaelion cryf i'r graig, fel y gwelir ar wymon, a chramennau fel y gwelir ar wyrain a sbyngau. Mae gan lygaid meheryn siâp côn er mwyn gwrthsefyll grym y tonnau. Mae pysgod cregyn eraill yn glynu wrth y graig gyda symudiad sugno cryf iawn. Mae creaduriaid eraill fel crancod a sêr môr yn cuddio o dan y creigiau i gadw allan o'r ymchwydd.

Er mwyn goroesi'r sychder, fe all anifeiliaid guddio yn eu cregyn amddiffynnol. Mae gwymon yn wydn ac fel rwber, ac felly'n gallu goroesi rhywfaint o sychu. Pan fydd y llanw'n isel, gadewir pyllau o ddŵr mewn pantiau a holltiadau yn y graig. Mae'r pyllau glan môr hyn yn faeau da ar gyfer creaduriaid sydd wedi eu dal gan ddisgyniad y llanw. Yma, efallai y gwelwch chi grancod yn cuddio o dan y gwymon, neu hyd yn oed pysgod neu gorgimwch yn nofio ac yn pori ar yr algâu. Mae anemoniau'r môr fel y gem a'r beadlet hefyd yn hoffi bod mewn pyllau glan môr fel y gallan nhw fwydo rhwng dŵr isel ac uchel. Os ydyn nhw'n cael eu dadorchuddio mae eu cyrff yn cael eu hamddiffyn mewn pelen fel jeli.

Peryglon i'r traeth caregog
Nid oes angen unrhyw reolaeth benodol ar greaduriaid traethau caregog, i'w gwarchod, ond maen nhw'n gallu bod mewn perygl os yw pobl yn mynd â chreaduriaid neu blanhigion i ffwrdd neu'n eu herydu wrth gerdded. Maen nhw'n sensitif iawn i lygredd fel cemegau amaethyddol neu ollyngiadau olew o gychod pleser a thanciau olew.

Fwy na thebyg mai'r perygl mwyaf yw newid yn nhymheredd y môr, oherwydd mae cynnydd yn nhymheredd y môr yn cynyddu blymau algaidd, gan ostwng y lefelau ocsigen a gostwng cyfradd goroesi llawer o'r rhywogaethau a welir ar ein traethau. Os bydd cynhesu byd-eang yn parhau yna fe fydd bioamrywiaeth ein traethau caregog yn newid ac fe allai leihau.

Twyni Tywod

Pam mae twyni tywod mor bwysig?
Mae twyni tywod yn fryniau o dywod sydd i'w gweld ar yr arfordir yn unig, ble mae yna ddigon o dywod ar gael pan fydd y llanw'n isel i sychu ac i gael ei chwythu tua'r tir. Caiff y tywod ei bentyrru gan y gwynt i mewn i dwmpathau ble mae'r graen sy'n cael eu chwythu yn bwrw rhwystr. Gydag amser, mae planhigion sy'n adeiladu twyni, sy'n dal y tywod ac yn ei sefydlogi rhag symud, yn gorchuddio'r twmpathau hyn. Hyd yn oed gyda gorchudd o blanhigion, mae twyni'n gynefinoedd deinamig sy'n newid drwy'r amser. Mae twyni'n ffurfio ar draethau agored, gan amlaf mewn baeau.

Twyni traeth Poppit.
Twyni traeth Poppit.​

Mae yna 16 safle o dwyni tywod yn y Parc Cenedlaethol, sef tua 14% o systemau twyni'r Deyrnas Unedig. Gan eu bod nhw'n cael eu hystyried yn ffurfiau mor bwysig mae 70% o'r rhain wedi eu gwarchod o fewn safleoedd cadwraeth.

Mae twyni tywod yn datblygu ac yn newid gydag amser ac, wrth iddyn nhw newid, mae eu bioamrywiaeth yn newid hefyd.  Mae'r planhigion sy'n cytrefu arnyn nhw yn rhai arbenigol iawn sy'n gallu goroesi amodau mor sych a deinamig ac ni welir y planhigion hyn mewn unrhyw gynefin arall.

Sut mae Twyni Tywod yn ffurfio?
Mae twyni tywod yn adeiladu gydag amser, mewn dilyniant o ffurfiau, o draeth gwastad i dwmpathau uchel. Gelwir datblygiad y ffurfiau hyn yn olyniaeth.  Gelwir y broses gyfan yn adeiladu twyni.

Gelwir dechrau'r broses o adeiladu twyni yn gam embryo'r twyni.  Mae tywod sy'n cael ei ddal mewn rhwystr yn adeiladu hyd nes ei fod y ansefydlog ac yn dymchwel.  Fe all planhigion fel moresg oroesi mewn amodau mor ansefydlog, oherwydd dydyn nhw ddim angen pridd i dyfu ac maen nhw'n lledu'n hawdd o dan y tywod.

Pan fydd y tywod yn dod yn fwy sefydlog, mae'r moresg a rhywogaethau arbenigol eraill fel marchwellt y tywydd, celyn y môr a llaethlys y môr yn cymryd drosodd. Gelwir hyn yn gam twyni melyn.  Mae'r twmpathau'n dal i fod yn isel ac mae yna fwy o dywod heb ei orchuddio nag sydd wedi'i orchuddio.

Yna, yn olaf mae'r tywod yn sefydlogi yn ei le ac mae mater organig yn adeiladu.  Nid yw'r twyni'n edrych yn felyn mwyach ond maen nhw wedi'u gorchuddio gan llystyfiant.  Gelwir hyn yn gam twyni llwyd.  Dyma'r cam ble mae gan y twyni eu bioamrywiaeth planhigion mwyaf.  Mae'r math o blanhigion sy'n tyfu yma'n dibynnu a yw'r tywod yn cynnwys darnau o gregyn neu raen mwyn.  Mae tywod cregyn yn arwain at dwyni llwyd alcali gyda phlanhigion sy'n hoffi alcali fel helygen y cŵn  a maeswellt gwyn, yn tyfu arno.

Mae tywod a ddaw o raen mwyn yn gwneud twyni llwyd asid gyda phlanhigion sy'n hoffi asid fel grug, grug lledlwyd, hesgen y tywod, cennau a mwsoglau yn tyfu arno.  Mae gwaun asidig twyn tywod yn gynefin sydd dan fygythiad mawr oherwydd caiff ei ddinistrio'n hawdd am fod pobl yn cerdded drosto ac mae ffermwyr yn gallu ei wella i wneud porfa neu glybiau golff yn gallu ei wella i wneud griniau.

Sut mae'r cynefin dan fygythiad?
Mae twyni'n llefydd deinamig oherwydd natur y tywod sy'n symud drwy'r amser, ond mae sawl ffactor yn arwain at ddirywiad net y cynefin hwn a'i erydiad.  Mae erydiad yn golygu nad oes digon o dywod yn y system i'w chadw'n sefydlog. Mae ardaloedd mawr o dywod yn gallu diflannu oherwydd stormydd niweidiol neu am fod pobl yn mynd â'r tywod.  Mae pobl wedi defnyddio'r tywod ar gyfer adeiladu yn y gorffennol ond mae'n anghyfreithlon gwneud hyn nawr. 

Mae pobl yn defnyddio twyni at ddibenion hamdden, ac mae hyn yn niweidio'r planhigion ac yn stopio'r twyni rhag datblygu.  Fe all cerdded trwy'r twyni eu niweidio nhw cymaint fel na allan nhw oroesi. Mae twyni yn gallu bod yn feysydd golff da, sy'n creu griniau a ffyrdd teg artiffisial ac yn atal symudiad naturiol y tywod. 

Mae amddiffynfeydd y môr hefyd yn gallu atal symudiad naturiol y tywod oherwydd maen nhw'n gallu cael gwared ar y ffynhonnell o dywod yn y môr gan atal y tywod rhag dod i mewn i'r system dwyni. Fe all ymlediad planhigion amrodorol fel helygen y môr newid bioamrywiaeth y twyni llwyd.
Oherwydd diffyg pori gan gwningod mae glaswelltau garw yn meddiannu glaswelltau meddal y gweundir ac yn eu datblygu yn brysg.

Pa gamau sy'n cael eu cymryd i warchod twyni tywod?
Caiff y twyni o fewn y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) eu monitro i weld os oes unrhyw newidiadau'n digwydd. Caiff safleoedd eraill eu monitro a'u harolygu gan grwpiau cadwraeth fel Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Mae cyswllt rhwng grwpiau diddordeb fel Clwb Golff Dinbych-y-pysgod a Pharcmyn y Parc Cenedlaethol yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r cynefin ac yn darparu cyngor ynglŷn â'r gwaith o'i gynnal a'i gadw ar dwyni sy'n boblogaidd gyda'r cyhoedd.