I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Ynysoedd Sir Benfro » Sgomer

Sgomer

Sgomer yw’r mwyaf o ynysoedd Sir Benfro. Mae’n warchodfa natur genedlaethol sydd o bwysigrwydd rhyngwladol am ei adar môr.

Mae Sgomer yn hafan i adar môr a morloi. Mae adar y pâl yn cerdded gyda balchder ochr yn ochr â’r llwybrau cerdded. Mae heligogod a gweilch y penwaig yn llenwi’r awyr gyda’i thrydar, wrth i forloi cwyno yn ddioglyd o’r draethlin.

Mae hefyd yn lle da i weld morloi, ac yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf gellir gweld rhai o’r arddangosfeydd gorau o fywyd gwyllt yng ngorllewin Prydain.

Adar y pâl © Adrian Owens.
Adar y pâl © Adrian Owens.

Yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru, ac yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae Sgomer yn agor am ymweliadau dyddiol ac arosiadau dros nos yn ei hostel, sy'n cael ei redeg mewn modd cynaliadwy. Ffi glanio.

Cyrraedd: Mis Ebrill tan fis Hydref, teithiau sy’n glanio o Martins Haven, hefyd teithiau cylch.
Aros yno: Mis Ebrill tan fis Hydref, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Natur i drefnu llety ar yr ynys (01239 621600).
Cyfleusterau: Toiledau, pwynt gwybodaeth, dŵr potel ar werth, llety hunanarlwyo syml, teithiau a digwyddiadaus (Swyddog Ymwelwyr  07530796150).
Ardal y Parc: Gorllewin Cyfeirnod Grid: SM715090.

Ar Ynys Sgomer, ceir y cytrefu mwyaf, a mwyaf hygyrch, o adar môr yn ne Prydain. Mae’r clogwyni wedi eu gorchuddio ag adar y môr - gwylanod y graig, llursod, heligogod a gwylanod coesddu. Mae’r palod yn nythu mewn tyrchfeydd yn y tywarch ar gopa’r clogwyni, gwylanod y penwaig a’r gwylanod cefnddu ar frigiadau caregog a gwylanod cefnddu bach ar y llwyfandir. Mae’r sŵn, yr arogl a’r gweithgarwch bridio yn parhau ddydd a nos.

Llurs ar Ynys Sgomer.
Llurs ar Ynys Sgomer.

Mae dros 100,000 pâr o balod Manaw ar yr ynys, y gytref fwyaf o’r adar hyn yn y byd. Maen nhw’n bwydo allan yn y môr yn y dydd, ac yn dychwelyd at eu tyrchfeydd yn y nos, gyda’u cri iasol i’w chlywed ar yr awel - oherwydd y gri hon, roedden nhw’n arfer cyfeirio at Sgomer fel "ynys yr eneidiau coll". Mae aros dros nos ar Sgomer yn brofiad bythgofiadwy.

Mae yna dystiolaeth o bresenoldeb pobl mor gynnar â’r Oes Efydd, ar ffurf un maen hir a elwir yn Faen Harold, a grŵp o naw o garneddau claddu bach. Ond, daw’r olion archeolegol pwysicaf o Oes yr Haearn (650 CC - 100 OC) a chredwyd bod dros 200 o bobl yn byw yma bryd hynny. Mae yna olion pedwar anheddiad, caer benrhyn fechan a rhai o’r systemau cae gorau ym Mhrydain i oroesi o’r Oes Haearn. Yn y gwanwyn, cyn i’r llystyfiant dyfu, mae modd gweld y ffiniau cae hynafol hyn yn glir, fel llinellau carreg neu fanciau o gerrig a phridd.

Mae llystyfiant yr ynys yn cael ei docio gan y gwynt a’r heli, ac mae’n cael ei wrteithio a’i sathru dan draed gan adar y môr, a’i bori gan filoedd o gwningod. Mae clychau’r gog a’r gludlys coch yn blodeuo mewn ardaloedd cysgodol, gyda chlustog Fair a’r gludlys arfor ar gopa’r clogwyni. Nid oes unrhyw goed, er bod prysg helyg, mieri a’r ddraenen ddu yn goroesi yn y dyffrynnoedd, ac mae rhywogaethau nodweddiadol coetir, fel clychau’r gog, yn awgrymu y bu ardaloedd coediog helaeth yma ar un adeg.

Mae adar y môr yn fwyd i’r gigfran, y boncath a’r hebog tramor, sydd hefyd yn bridio ac yn bwydo ar yr ynys. Mae yna sawl pâr o frain coesgoch a nifer amrywiol o dylluanod clustiog yn bridio yma hefyd.

Ynys Sgomer oddi wrth y tir mawr.
Ynys Sgomer oddi wrth y tir mawr.

Nid oes unrhyw famaliaid ysglyfaethus fel cadnoid neu lygod mawr, a dyma pam mae cymaint o adar yn nythu ar y tir. Mae llygoden Sgomer yn unigryw i’r ynys. Mae yma filoedd o lyffantod, ynghyd â rhai brogaod, madfallod palmaidd y môr, madfallod a dallnadroedd.

Gellir gweld morloi llwyd ar y creigiau pan fydd y llanw’n isel, trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig ger Carreg Garlant. O ddiwedd mis Awst hyd nes mis Hydref, mae’r morloi benywaidd yn dod i’r lan i eni eu rhai bach.

Mae’r dyfroedd o amgylch Sgomer, Sgogwm a Middleholm yn rhan o Warchodfa Natur Forol Sgomer, un o dair gwarchodfa o’r fath yn y Deyrnas Unedig. Yma, rydych chi’n debygol o weld llamhidyddion cyffredin, yn bwydo ar bysgod yn y dyfroedd byrlymog. Yn hwyr yn yr haf, efallai y gwelwch chi’r dolffiniaid cyffredin, yn ogystal â dolffiniaid trwynbwl a dolffiniaid llwyd, a hefyd yr heulbysgodyn rhyfedd.