I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Byw Yn » Cronfa Datblygu Cynaliadwy » Sut i Geisio am Nawdd » Canllawiau Ceisio am Grant

Canllawiau Ceisio am Grant

BETH YW’R GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY?

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) yn cefnogi prosiectau cynaliadwy arloesol sy'n datblygu ac yn profi ffyrdd newydd o gyflawni ffordd o fyw sy'n fwy cynaliadwy ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.  Diben yr arian yw cefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar ddangos atebion ymarferol sy'n berthnasol i agweddau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar fywyd.  Gall prosiectau amrywio o’r lleol i'r rhai sy'n gymwys ar draws y Parc Cenedlaethol neu ardal ehangach.  Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) sy’n gyfrifol am weinyddu'r SDF.

NOD Y GRONFA SDF

Drwy weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a phrofi dulliau o lwyddo i gyflawni datblygu cynaliadwy mewn cefn gwlad o harddwch naturiol ac amrywiaeth gwych lle mae nodweddion lleol y diwylliant, bywyd gwyllt, tirwedd, defnydd tir a chymuned yn cael eu cadw a'u gwella.

AMCANION SDF


  • Archwilio ffyrdd arloesol o gyfrannu cyn belled ag y bo'n ymarferol at weledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru gynaliadwy, ac o chwalu'r rhwystrau all fod yn rhwystrau i gynaliadwyedd
  • Integreiddio datblygu cynaliadwy â nodweddion arbennig y Parc, a dangos cyfraniad yr ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth leol at fyw'n gynaliadwy
  • Adeiladu gallu mewn cymunedau lleol ac i ddatblygu a chynnal prosiectau yn y gymuned sy'n hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy
  • Creu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd ymysg trigolion ac ymwelwyr, a hwyluso newid ymddygiad cadarnhaol

BETH YW DATBLYGU CYNALIADWY?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn disgrifio "datblygu cynaliadwy" fel gwella'r ffordd y gallwn gyflawni ein lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy yn cael ei ddiffinio fel "gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain”.

PA FATH O BROSIECT SY'N CAEL ARIAN?

Mae'r gronfa yn agored i brosiectau sy'n wirioneddol yn dangos ymrwymiad i'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy, ac yn dangos arloesedd neu arferion amgylcheddol da, a thrwy hynny yn cyfrannu tuag at wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Gall prosiectau fod yn anelu at godi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd drwy raglenni addysg, neu ganolbwyntio ar yr ymarferol drwy gynnwys pobl a sefydliadau lleol.

Dylai prosiectau llwyddiannus gyflawni un neu fwy o'r canlynol:-


  • amddiffyn a gwella'r amgylchedd a bywyd gwyllt
  • defnyddio adnoddau naturiol yn ofalus
  • gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o fyw'n gynaliadwy
  • cydnabod angen yr holl bobl
  • cyfrannu at gymunedau cadarn a bywiog
  • darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth leol a thwf economaidd
  • diogelu diwylliant a threftadaeth leol
  • sylweddoli’r manteision i iechyd o gael mynediad i’r awyr agored a gweithgareddau hamdden

A YW FY MHROSIECT YN GYMWYS?

Bydd prosiectau cymwys:-


  • yn gynaliadwy – yn cysylltu materion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd drwy gyfranogiad y cyhoedd
  • yn dangos bod ganddynt gefnogaeth neu gyfranogiad diffuant cymunedau o fewn y Parc
  • yn cefnogi un neu fwy o amcanion y gronfa
  • yn dangos eu bod yn cyfrannu at Gynllun Rheoli'r Parc Cenedlaethol, ac yn ategu strategaethau lleol a chenedlaethol perthnasol eraill
  • yn dod â sefydliadau at ei gilydd mewn partneriaeth i fynd i'r afael â phroblemau a sicrhau atebion cynaliadwy
  • yn cydymffurfio â'r egwyddor o drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal mewn unrhyw ddelio â'r cyhoedd (e.e. deunydd cyhoeddusrwydd ac arwyddion)
  • yn codi ymwybyddiaeth am gynaliadwyedd, yr angen i newid ffyrdd o fyw a datblygu sgiliau ar gyfer atebion cynaliadwy
  • yn gallu cael cyfraniadau o ffynonellau eraill (mewn arian parod neu ‘mewn da’)
  • yn arddangos arloesedd neu arfer gorau
  • yn cyfrannu tuag at un neu fwy o'r nodau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

 Gall prosiectau cymwys hefyd:-


  • ychwanegu gwerth neu ddimensiwn newydd at brosiectau cynaliadwyedd sydd eisoes yn bodoli
  • goresgyn trefniadau sefydliadol, cysylltiadau a diwylliannau allai fod yn rhwystro cynaliadwyedd
  • hyrwyddo dealltwriaeth ehangach neu godi ymwybyddiaeth am gynaliadwyedd, yr angen i newid ffyrdd o fyw ac i ddatblygu sgiliau ar gyfer atebion cynaliadwy
  • cynnwys pobl ifanc a chynnig cyfleoedd i gael gwybodaeth a sgiliau newydd
  • sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau pwysig yn lleol
  • cefnogi grwpiau lleol o bobl dan anfantais neu bobl anabl
  • cael cefnogaeth gan fusnesau lleol ac yn rhoi cymorth iddynt
  • annog cynhwysiant cymdeithasol

BETH YW NODAU LLESIANT?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi saith gôl llesiant. Bydd prosiectau cymwys yn cyfrannu tuag at un neu fwy o'r amcanion lles isod:-

  1. Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, cynhyrchiol a charbon isel sy'n cydnabod cyfyngiadau yr amgylchedd byd-eang ac felly yn defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn gymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth â sgiliau ac addysg dda mewn economi sy'n cynhyrchu cyfoeth ac sy’n rhoi cyfleoedd i gael swyddi, gan alluogi pobl i fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir trwy sicrhau gwaith sy’n gweddu iddynt.
  2. Cymru gydnerth: Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella'r amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach sy'n cynnal cadernid cymdeithasol ac economaidd a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)
  3. Cymru iachach:Cymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol pobl yn cael ei hybu i’r eithaf a lle mae dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol yn cael eu deall
  4. Cymru fwy cyfartal: Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.
  5. Cymru o gymunedau cydlynol: Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd â chysylltiadau da.
  6. Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus: Cymdeithas sy'n hybu ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a chwaraeon a hamdden.
  7. Cymru gyfrifol yn fyd-eang: Cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a all hynny wneud cyfraniad cadarnhaol i les byd-eang a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)

PWY ALL WNEUD CAIS AM GYLLID?

Mae'r Gronfa ar agor i sefydliadau gan gynnwys grwpiau cymunedol, yn ogystal ag unigolion a busnesau. Yn achos unigolion a busnesau, rhaid dangos y manteision i'r gymuned ehangach.

SUT YR ASESIR CEISIADAU I’R PROSIECT?

Bydd eich cais yn cael ei asesu gan Bwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, sy'n cynnwys Aelodau Ymgynghorol o blith y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac Aelodau’r APCAP. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn, neu yn ôl y gofyn. Fe’ch gwahoddir i gyflwyno eich cais i'r Pwyllgor, sy'n rhoi cyfle i chi siarad am ddeng munud am eich prosiect, a helpu'r Pwyllgor i ddeall sut fydd eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg, gan nad oes unrhyw derfynau amser. Fodd bynnag, cofiwch fod arian yn cael ei wario wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi. Mae’r Swyddog Cronfa Datblygu Cynaliadwy yn cyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor SDF, ac mae ar gael i drafod syniadau ar gyfer prosiectau a rhoi cyngor.

BETH MAE CRONFA SDF YN EI ARIANNU?


  • Bydd y cynllun yn rhoi grantiau prosiect, grantiau rheoli (i gynnal costau staff) a grantiau datblygu (er mwyn bod yn gatalydd ar gyfer camau gweithredu neu bartneriaethau newydd).
  • Pennir y grant fel arfer ar 50%, yn ogystal ag elfen briodol ar gyfer costau gorbenion (10%), ond gall fod yn fwy mewn amgylchiadau eithriadol.
  • Fel arfer bydd disgwyl i ymgeiswyr godi cyfran o'r costau eu hunain sy'n gallu bod ar ffurf "cyfraniadau mewn da" (e.e. rhoi amser gwirfoddolwyr, benthyg offer), ac o ffynonellau eraill.
  • Fel arfer bydd taliadau grant i ymgeiswyr llwyddiannus yn ôl-weithredol ar ôl derbyn anfonebau. O dan rai amgylchiadau, lle gellir dangos bod angen, gall taliadau gael eu gwneud ymlaen llaw.
  • At ddibenion arian cyfatebol, bydd amser gwirfoddolwyr fel arfer yn cael ei gostio ar £8.45 yr awr.

SUT MAE GWNEUD CAIS

Os credwch bod eich syniad am brosiect yn dangos un neu fwy o agweddau ar gynaliadwyedd a’ch bod yn dymuno gwneud cais am gyllid, a fyddech gystal â dilyn y camau isod:

1. Trafodwch eich syniadau ar gyfer prosiect gyda'n Swyddog SDF

2. Yn dilyn trafodaethau cychwynnol, bydd angen i chi wedyn roi rhai manylion ysgrifenedig am eich cynnig i allu asesu a yw eich cynnig yn bodloni meini prawf y gronfa

3. Os ystyrir bod eich cynnig yn gymwys i gael cymorth ariannol, bydd angen i chi wedyn gyflwyno cais llawn gan gynnwys atodiad ariannol gyda manylion am gostau’r prosiect

Mae cymorth a chyngor ar gael trwy gydol y broses gan ein Swyddog SDF, a gellir gwirio eich cais cyn ei gyflwyno’n derfynol.

Cysylltwch â’r Swyddog Cronfa Datblygu Cynaliadwy yn:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro,

Parc Llanion, 

Doc Penfro,

Sir Benfro SA72 6DY

 Ffôn: 01646 624800

e-bost sdf@pembrokeshirecoast.org.uk    www.pembrokeshirecoast.org.uk