I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Cynllunio Eich Ymweliad » Oriel y Parc » Arddangosfeydd

Arddangosfeydd yn Oriel y Parc

Yma yn Oriel y Parc mae amrywiaeth o arddangosfeydd gan artistiaid a chrefftwyr o Sir Benfro i’w gweld drwy'r Ganolfan Ymwelwyr cyfan.

Mae yna Oriel Tirlun o'r radd flaenaf hefyd, sy'n arddangos celf ac arteffactau o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Yn aml mae'n cynnwys gwaith Graham Sutherland, a adawodd gorff o'i waith celf i Sir Benfro.


Cliciwch y llun uchod i gael gwybodaeth ar yr arddangosfa ddiweddaraf yn y brif oriel.

Mae Oriel y Parc yn gydweithrediad unigryw rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro lle mae gwasanaethau i ymwelwyr yn dod law yn llaw ag arddangosfeydd o gasgliadau cenedlaethol i ddathlu’r tirlun.

Gan ddefnyddio gwrthrychau o gasgliadau celf, hanes naturiol a diwydiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae ymwelwyr yn gallu gweld rhaglen o arddangosfeydd gwahanol.

Yn y Ystafell Tyddewi ceir arddangosfa o baentiadau, printiau ac ysgythriadau, tra bo'r Ystafell Ddarganfod yn cynnwys gofod arddangos ar gyfer gweithiau celf 3D, gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwydr a cherfluniau.

Amgueddfa Cymru-National Museum Wales Gallery at Oriel y Parc.
Gwaith Graham Sutherland yn cael eu arddangos yn Oriel Amgueddfa Cymru yn Oriel y Parc.​