I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
    Tywydd

    Weather  |  Tide Tables

     

    Hafan » Byw Yn » Cynllunio » Tai Fforddiadwy » Cwestiynau am Dai Fforddiadwy

    Cwestiynau Cyffredin am Dai Fforddiadwy

     MEWN GRYM O 5 TACHWEDD 2014

    Deg Cwestiwn Cyffredin – Tai Fforddiadwy

     

    1. Beth yw Tai Fforddiadwy?

    Mae yna dri math o dai fforddiadwy:


    • Eiddo Cymdeithasol ar Rent ar sail canllawiau costau adeiladu gan gymdeithasau tai. Caiff y rhain eu hadeiladu gan gymdeithas tai neu eu trosglwyddo ati.  Y cynnig ar hyn o bryd yw 55% o’r Canllawiau Costau Derbyniol (cost adeiladu gan gymdeithasau tai) i ddatblygwyr.
    • Tai Canolradd i’w prynu – sy’n aml ar ffurf Perchentyaeth Cost Isel (fel arfer 70% o’r gwerth ar y farchnad).
    • Tai Canolradd i’w rhentu – sydd fel arfer i’w rhentu 20 i 30% yn rhatach nag ar y farchnad agored ond yn is na gwerth lleol y lwfans tai lleol.

     

    Mae’n fwy cymhleth na hyn, ond fe fydd y pwyntiau uchod yn rhoi amcan i chi.

     

    1. Beth yw’r angen am dai fforddiadwy?

    Caiff yr angen ei asesu gan y Cyngor Sir a’i nodi yn yr Asesiad o’r Farchnad Tai Leol.

     

    1. A yw’r trothwy ar gyfer darparu tai fforddiadwy yr un peth ym mhobman yn y Parc Cenedlaethol?

    Ydi – mae angen cyfraniad tai fforddiadwy ar anheddau sengl. Y trothwy ar gyfer cytuno ar dai fforddiadwy ar safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw 2 annedd neu fwy.

     

    1. Beth yw cytundeb Adran 106?

    Mae hwn yn gytundeb gyda’r awdurdod cynllunio lleol ble’r ydych chi’n cytuno i dalu arian neu i ddarparu tai fforddiadwy er mwyn cael caniatâd cynllunio.  Weithiau, defnyddir yr hyn a elwir yn Gytundeb Unochrog. Mae Cytundebau Unochrog bron yn union yr un peth â Chytundebau Adran 106.  Weithiau, cyfeirir atynt fel Ymgymeriadau Unochrog.





     

    1. Beth yw profi hyfywedd?

    Mae hyfywedd economaidd o’r pwysigrwydd pennaf wrth drosglwyddo tai fforddiadwy yn y Parc Cenedlaethol.  Os nad yw’r cynllun yn hyfyw yn ariannol, ni fydd y datblygiad yn cael ei wireddu, ac fe fydd hyn yn cael effaith sylweddol ar drosglwyddiad tai fforddiadwy.

    Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod y targedau yn y Cynllun Datblygu Lleol (Polisi 45) yn heriol ac mae wedi comisiynu gwaith ychwanegol i helpu cynghori ymgeiswyr ar y lefel o dai fforddiadwy sy’n cael ei gweld fel lefel drosglwyddadwy yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Gweler yr ateb i gwestiwn 7 isod am gyngor pellach.

    Mae’r Awdurdod yn defnyddio’r Pecyn Cymorth Arfarnu Datblygiad gan Andrew Golland Associates i arfarnu cynigion a gall ddarparu copi rhad ac am ddim i er mwyn i ymgeiswyr ac asiantau ei lenwi.  Mae’r Awdurdod hefyd yn darparu Asesiad Hyfywedd Economaidd y mae’n rhaid i ymgeiswyr potensial ei gyflwyno gydag unrhyw gynigion cyn cyflwyno cais.

     

     

    1. Pryd ddylwn i gael Asesiad Hyfywedd Economaidd?

    Gorau po gynharaf. Mae darparu gwybodaeth ymlaen llaw yn golygu bod y broses o benderfynu ar y cais cynllunio yn rhedeg yn fwy llyfn.  Mae pob polisi cynllunio sy’n gofyn am dai fforddiadwy yn gorfod cael asesiad hyfywedd, felly mae’n well sôn am hyfywedd yn ystod trafodaethau cyn cyflwyno cais, a chynnwys Asesiad Hyfywedd Economaidd gyda’ch cynigion cyn cyflwyno cais.

     

     

    1. Pam nad yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi newid ei bolisi yn y Cynllun Datblygu Lleol?

    Mae’r Awdurdod yn bwriadu cynnal adolygiad llawn o’i Gynllun Datblygu Lleol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2014 - 2015.  Hyd yn oed os cynhelir yr arolwg hwn ynghynt, ni ellir dibynnu ar hyn i roi sylw i faterion tai fforddiadwy’r Parc Cenedlaethol mewn modd amserol.

    Er mwyn rhoi sylw i faterion nawr, mae’r Awdurdod wedi cyflwyno canllawiau cynllunio atodol yn lle’r rhai sydd eisoes yn bodoli, ac maen nhw mewn grym o 5 Tachwedd  2014.

    Mae’r canllawiau hyn, a’r adroddiad prosiect cefnogol, yn arwydd clir o’r canran tai fforddiadwy gofynnol a fydd yn dderbyniol i’r Awdurdod mewn unrhyw Asesiad Hyfywedd Economaidd a gyflwynir ar:

    1. Safleoedd a enwir yn y Cynllun ym Mholisi 42 a 45 – gweler Atodiad 5 yn y  canllawiau.  Disgwylir bod y ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yn 50% neu’n llai, gan ddibynnu ar y safle.
    2. Safleoedd sydd heb eu henwi yn y Cynllun (a elwir yn hap-safleoedd) ar gyfer 2 annedd neu fwy – gweler Map o Ardaloedd Is-farchnad a pharagraff 7 yn yr Adroddiad Prosiect.  Disgwylir bod y ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yn 50% neu’n llai gan ddibynnu ar leoliad y safle.

    • Trefdraeth a Dinbych-y-pysgod – 50%
    • Tyddewi ac Arfordir y Gogledd, Arfordir y De Ddwyrain a Bae Sain Ffraid – 30%
    • Cefnfro Aber, Arfordir y De Orllewin a Gogledd Ddwyrain y Parc Cenedlaethol – 20%

    1. Safleoedd sydd heb eu henwi yn y Cynllun ar gyfer anheddau sengl – gweler Map o Ardaloedd Is-farchnad.  Gostyngwyd y cyfraniad o £250 y metr sgwâr mewn rhai ardaloedd is-farchnad:

    • Trefdraeth a Dinbych-y-pysgod - £250 y metr sgwâr
    • Tyddewi ac Arfordir y Gogledd, Arfordir y De Ddwyrain a Bae Sain Ffraid - £150 y metr sgwâr
    • Cefnfro’r Aber, Arfordir y De Orllewin a Gogledd Ddwyrain y Parc Cenedlaethol - £100 y metr sgwâr.

     

    1. A fydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hyblyg wrth drafod?

    Bydd – mae’r Awdurdod yn gallu bod yn hyblyg oherwydd:


    • Mae polisïau datblygu lleol yr Awdurdod yn caniatáu trafodaeth.
    • Mae canllawiau’r Awdurdod yn caniatáu gofynion is ar gyfer tai fforddiadwy yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
    • Mae’n barod i fod yn hyblyg ar gyfuniad daliadaeth (h.y. cyfran y tai rhent i berchentyaeth cost isel) tra’n adlewyrchu’r angen yn lleol.
    • Caiff ystyriaethau dylunio eu hystyried mewn ystyriaethau hyfywedd.

     

    1. Allwch chi helpu gyda’r Ardoll Isadeiledd Cymunedol?

    Nid yw’r Ardoll Isadeiledd Cymunedol wedi cael ei gyflwyno yn Sir Benfro, ond mae yna rwymedigaethau cynllunio ar gyfer addysg, hamdden ayb. sydd angen ystyriaeth ble mae’r cynnig ar gyfer 3 annedd neu fwy.  Dylai profion hyfywedd tai fforddiadwy ystyried rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer cyfleusterau cymunedol.

     

    1. Beth os nad yw’r Awdurdod yn cytuno gyda’r Asesiad Hyfywedd Economaidd?

    Mae yna gyfle bob tro i drafod ble mae materion hyfywedd yn codi.  Mae gan yr Awdurdod ddiddordeb penodol mewn gweld sut mae modd newid cynllun i wella hyfywedd trwy ystyried, er enghraifft, gwahanol ddwyseddau neu anheddau o faint gwahanol, neu wahanol fath a chyfuniad o ddaliadaeth.

    Gweler tudalen 10 yng nghanllawiau’r Awdurdod ar ‘Hyfywedd Economaidd’.

    Os yw’r ddwy ochr yn parhau i anghytuno, gellir cyfeirio’r asesiad hyfywedd at aseswr annibynnol sy’n gyfarwydd â Phecyn Cymorth Arfarnu Datblygiad Cymru a’i egwyddorion, ar gost yr ymgeisydd.